Mae cynllun newydd wedi'i gymeradwyo i wella llwybrau cerdded a llwybrau ceffylau yng Ngheredigion. Cafodd y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ei gymeradwyo mewn cyfarfod o'r Cabinet ar 4 Mehefin 2019.

Y cynllun yw'r brif ffordd sydd gan gynghorau nodi, blaenoriaethu a chynllunio ar gyfer gwelliannau i'w rhwydwaith hawliau tramwy lleol. Mae hyn yn cynnwys gwella llwybrau ar gyfer cerddwyr, beicwyr, marchogion a phobl sydd â phroblemau hygyrchedd.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Economi ac Adfywio. Dywedodd, “Mae staff y cyngor yn cynnal rhwydwaith anferth o lwybrau cerdded a llwybrau ceffylau ledled Ceredigion. Mae'r cynllun gwella hawliau tramwy yn ffordd werthfawr o'u helpu i dargedu llwybrau penodol a rhoi sail ar gyfer ceisiadau sy'n cael eu hariannu drwy grantiau.”

"Mae'r rhwydwaith llwybrau yng Ngheredigion yn golygu y gall trigolion ac ymwelwyr gerdded, seiclo neu deithio ar gefn ceffylau i fannau diddorol a hardd ar draws y sir. Mae gennym y Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus a'u cynllun i ddiolch am hynny.”

Cynhaliwyd ymgynghoriad tri mis ar ddrafft o’r cynllun yn ystod Hydref 2018. Ymatebodd nifer o bobl, cynghorau cymuned a grwpiau eraill i'r ymgynghoriad. Cafodd y cynllun ei gyflwyno hefyd i'r Fforwm Mynediad Lleol ble gadarnhaodd y fforwm eu bod yn cefnogi'r cynllun. Bydd y cynllun newydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar ffurf copi caled a gedwir yn swyddfeydd y cyngor a llyfrgelloedd.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i adolygu cynlluniau bob 10 mlynedd. Cymeradwywyd y cynllun blaenorol yn 2008.

06/06/2019