Mae Cynllun Gwella Beicwyr Modur Ceredigion yn cynnig hyfforddiant i feicwyr modur cymwys sy’n byw yng Ngheredigion ac mae’r cwrs ar gael rhad ac am ddim trwy gydol yr haf eleni.

Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Ceredigion sy’n darparu’r hyfforddiant â chymorthdal Llywodraeth Cymru â hyfforddwyr sydd wedi eu cymeradwyo gan Asiantaeth Safonau Gyrru. Mae’r cwrs undydd yn seiliedig ar ddysgu theori ac ymarferol. Mae’n addas ar gyfer beicwyr modur sydd wedi pasio’r prawf gyrru yn ddiweddar, yn ailddechrau gyrru ar ôl seibiant, yn uwchraddio i feic modur mwy pwerus neu eisiau gwirio safon gyrru.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, “Mae Cynllun Gwella Beicwyr Modur Ceredigion yn gyfle perffaith i ddatblygu eich sgiliau, os ydych yn feicwyr modur profiadol neu newydd basio eich prawf. Rydym yn hynod o ffodus yng Ngheredigion i gael llawer o gefn gwlad hyfryd gyda llwybrau sy’n denu nifer o feicwyr modur. Hoffwn annog holl feicwyr modur Ceredigion i gymryd y cyfle yma i dderbyn hyfforddiant am ddim a all helpu datblygu'ch sgiliau ymhellach.”

Cynhelir y cwrs Gwella Beicwyr Modur Ceredigion yng Ngorsaf Dân Aberystwyth ar ddydd Sadwrn gan ddechrau am 9yb a gorffen am 4yp.

Tynnodd Katy Peat, beiciwr modur a gwblhaodd y cwrs y llynedd, sylw at sut mae'r cwrs wedi ei helpu ers mynychu'r sesiwn undydd, "Fe wnes i sesiwn Cynllun Gwella Beicwyr Modur yr haf diwethaf. Bob tro dw i’n gyrru, dw i'n meddwl ac yn gweithredu ar yr adborth ces i ar y cwrs."

Bydd tystysgrif yn cael ei gyflwyno ar ôl cwblhau'r cwrs. Gall hwn leihau cost premiymau yswiriant yn ogystal â dangos tystiolaeth o hyfforddiant beiciau modur ychwanegol os hoffech ymuno â grŵp megis Beiciau Gwaed.

I archebu lle ar y cwrs, ffoniwch 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk

09/07/2018