Os ydych yn byw mewn cartref oer yn nhref Aberteifi, efallai y bydd eich cartref yn gymwys am well system gwresogi, deunydd inswleiddio yn y waliau neu’r atig, neu baneli solar am ddim o dan gynllun Arbed Llywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio mewn partneriaeth ag Arbed am Byth, sy’n rheoli’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru, er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn y sir drwy wella effeithlonrwydd ynni a lleihau’r allyriadau carbon deuocsid o’n cartrefi. Mae Aberteifi wedi'i nodi fel ardal ar gyfer cynllun posibl. Ariennir y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Gall cartref oer gael effaith negyddol ar iechyd a lles bob dydd unigolyn. Mae byw mewn cartref nad yw’n effeithlon o ran ynni yn dueddol o olygu costau tanwydd uwch oherwydd bod gwres yn cael ei golli o ganlyniad i ddiffyg inswleiddio. Nod y cynllun yw gwneud cartrefi’n gynhesach, yn fwy cyfforddus ac yn fwy fforddiadwy i’w cynhesu. Cyflawnir hyn drwy osod ystod o fesurau effeithlonrwydd ynni priodol.

Mae cartrefi yn Aberteifi yn cael eu hasesu ar hyn o bryd i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer mesurau arbed ynni am ddim. Os yw eich cartref wedi’i leoli o fewn ffin ddynodedig y cynllun, a’ch bod yn berchen arno neu’n ei rentu gan landlord preifat, mae’r eiddo’n gymwys ar gyfer asesiad cartref. Mae pob cartref o fewn yr ardal ddynodedig yn gymwys i ymgeisio waeth beth yw sefyllfa ariannol y preswylwyr sy’n byw yn y cartref.

Yn ystod yr ymweliad asesu, bydd y syrfëwr yn cadarnhau a yw’r cartref yn gymwys ar gyfer y mesurau effeithlonrwydd ynni a pha fesurau a allai fod yn briodol. Mae’r asesiad yn rhad ac am ddim ac nid yw perchennog y cartref o dan unrhyw rwymedigaeth i fwrw ymlaen â’r cynllun. Yn dilyn yr asesiad, gall Arbed am Byth gynghori pa fesurau penodol sy’n addas i’ch cartref.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Dai. Dywedodd, “Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth ag Arbed am Byth i sicrhau bod trigolion ein sir yn byw mewn cartrefi cyfforddus. Mae hyn yn sicrhau gwell iechyd a lles i’n pobl. Dyma gyfle da i bobl tref Aberteifi gymryd mantais ar wella eu cartrefi.”

Gan weithio gyda Chyngor Sir Ceredigion, mae Arbed am Byth yn gobeithio cefnogi tua 150 o gartrefi drwy’r cynllun. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Arbed am Byth “mae cynllun Arbed Aberteifi yn gynllun a ariennir yn llawn a fydd yn helpu trigolion i leihau eu biliau gwresogi a gwella effeithlonrwydd eu cartrefi. Mae’n gyfle gwych i gael cymorth y mae wir ei angen, a hynny am ddim, ond dim ond 150 o gartrefi all fod yn rhan o’r cynllun, felly rwy’n annog trigolion i ymgeisio’n gyflym.”

Mae darparu cynllun effeithlonrwydd ynni cartrefi tra bod pandemig y coronafeirws yn mynd rhagddo yn heriol. Dywedodd Jordan Price, Rheolwr Rhagoriaeth Gwasanaeth Arbed am Byth “Rydym wedi cyflwyno mesurau cadarn iawn i sicrhau y gallwn weithio’n ddiogel yn eich cartref yn ystod pandemig Covid-19. Mae ein haseswyr a’n gosodwyr yn gwirio eu symptomau’n ddyddiol, yn gweithio mewn swigod, yn gwisgo menig a masgiau ar bob adeg ac yn defnyddio hylif diheintio’n rheolaidd. Maent yn galw ymlaen llaw bob amser er mwyn sicrhau nad oes gan unrhyw un symptomau cyn iddynt ddod i’ch cartref. Pan fyddant yn y tŷ, byddant yn sicrhau eu bod yn cynnal pellter cymdeithasol.”

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun, cysylltwch ag Arbed am Byth ar info@arbedambyth.wales neu drwy ffonio 03300414647.

29/10/2020