Atgoffir aelwydydd cymwys i wneud cais ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i gael cymorth tuag at dalu biliau tanwydd yn ystod y gaeaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ail-lansio’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2022 – 2023 fel rhan o becyn cymorth gwerth £90m i fynd i’r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw.
Hyd yn hyn, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cynorthwyo dros 5,000 o aelwydydd gyda'r taliadau hyn ac wedi rhoi dros £1m mewn taliadau. Os ydych yn wynebu biliau tanwydd uwch ac yn meddwl y gallech fod yn gymwys, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl. Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad un tro o £200 i gael cymorth tuag at dalu eu costau ynni ar gyfer eu prif gartref yng Nghymru.
Mae'r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae’r sawl sy’n gwneud cais neu ei bartner yn gyfrifol am dalu’r biliau ynni ac yn derbyn un o’r budd-daliadau lles isod (ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023):
- Gostyngiad Treth y Cyngor
- Credyd Cynhwysol
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credydau Treth Gwaith
- Credydau Treth Plant
- Credyd Pensiwn
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Lwfans Byw i Bobl Anabl
- Lwfans Gweini
- Lwfans ar gyfer Gofalwyr
- Lwfans Ceisio Gwaith newydd/ yn Seiliedig ar Gyfraniadau
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd/ yn Seiliedig ar Gyfraniadau
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Os nad yw’r ymgeisydd nai bartner sydd yn gyfrifol am dalu’r biliau ynni yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau cymhwyso, efallai y bydd yn gymwys i ymgeisio os oes unigolyn cymwys yn byw gyda nhw. Mae rhaid i’r unigolyn cymwys fodloni pob un o’r amodau a ganlyn:
- yn byw yn nhŷ y sawl sy’n gwneud cais neu ei bartner fel ei brif breswylfa, ac hefyd
- yn blentyn dibynnol neu’n oedolyn arall sy’n byw gyda’r sawl sy’n gwneud cais neu ei bartner, ac hefyd
- yn cael un o’r budd-daliadau (ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023) isod:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i Bobl Anabl
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Bydd y taliad ar gael i bob cartref cymwys p'un a ydynt yn talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter. Gall y tanwydd a dderbynnir cael ei ddarparu ar y grid, neu oddi ar y grid.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael: “Byddwn yn annog pobl sy'n wynebu biliau tanwydd uwch i wirio a ydyn nhw’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i gael cymorth amhrisiadwy gyda biliau tanwydd pan fo’i angen fwyaf.”
Gellir gwneud ceisiadau hyd at 5pm ar 28 Chwefror 2023 drwy wefan y Cyngor: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/budd-daliadau/cynllun-cymorth-tanwydd-gaeaf/
22/11/2022