Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ennill ail wobr am fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Ngheredigion, ac mae hefyd wedi lansio prosiect newydd i gynorthwyo 120 o drigolion.

Gan weithio mewn partneriaeth â City Energy, cwmni o Gymru, sicrhaodd Cyngor Sir Ceredigion fanteision sylweddol i 137 o drigolion agored i niwed yn yr ardal drwy’r cynllun Caron Cynnes, a wnaeth osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi y llynedd. 

Mae llwyddiant y cynllun wedi'i gydnabod yng Ngwobrau Rhagoriaeth ym maes Caffael Cyhoeddus GO Cymru a’r Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol, a dyfarnwyd y wobr 'Cyflawniad Contract Gorau' a ‘Prosiect ar Raddfa Fawr’ i’r ddau sefydliad.

O ganlyniad i lwyddiant y cam cyntaf, sicrhaodd y Cyngor gyllid ychwanegol i ddarparu 120 o fesurau gwresogi ynni-effeithlon pellach. Enillodd Cyngor Sir Ceredigion hefyd y wobr am y 'Cyngor/Awdurdod Lleol' gyda'r ymroddiad mwyaf tuag at effeithlonrwydd ynni gyda’i drigolion ym mlaen ei feddwl.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ac Eiriolwr Cynaliadwyedd: “Hoffwn longyfarch y tîm Tai ar eu gwaith caled a'u llwyddiant gyda Chynllun Caron Cynnes. Gyda 137 o drigolion eisoes yn elwa o gartrefi cynhesach a chyfforddus, mae costau tanwydd wedi gostwng i aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd neu ar incwm isel ac yn agored i effeithiau’r oerfel. Unwaith eto, bydd ail gam y cynllun yn targedu ardaloedd a chymunedau gwledig nad yw'r rhwydwaith nwy yn eu cyrraedd – mae teuluoedd yn yr ardaloedd hyn yn dibynnu ar fathau drutach o danwydd, e.e. tanwydd solet a systemau trydanol i wresogi eu cartrefi. Yn ogystal â helpu'r deiliaid tai hynny sydd mewn tlodi tanwydd, bydd y cynllun gwych hwn hefyd yn lleihau ôl troed carbon gostyngol Ceredigion ymhellach, sy’n fuddugoliaeth ddwbl.”

Neil Llewellyn yw Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau City Energy. Dywedodd: “Roedd y prosiect cyntaf yn llwyddiannus dros ben, ac rwy’n falch iawn o’r hyn y mae City Energy a Chyngor Sir Ceredigion wedi’i gyflawni i helpu i leihau tlodi tanwydd yng Nghymru. Rwy’n falch iawn bod y prosiect wedi ennill dwy wobr a’n bod yn gallu helpu 120 o drigolion eraill yng Ngheredigion.”

Ariennir y cynllun gan Gronfa Cartrefi Cynnes gwerth £150m y Grid Cenedlaethol ac mae ar agor i geisiadau gan drigolion lleol. Mae dros 82% o aelwydydd Ceredigion wedi'u lleoli oddi ar y prif rwydwaith nwy, sy'n golygu bod yn rhaid i'r trigolion ddibynnu ar danwyddau drutach nad ydynt yn cael eu rheoleiddio. Mae hyn wedi cyfrannu at nifer yr aelwydydd yn y sir yr ystyrir eu bod mewn 'tlodi tanwydd'. Gan fod cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer Cam 2 y prosiect, bydd y Cyngor yn gallu gosod 120 o systemau gwres canolog ychwanegol am y tro cyntaf mewn eiddo aneffeithlon o ran ynni yn y sir; pympiau gwres ffynhonnell aer a systemau nwy LPG fydd y rhain.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais ar gyfer y prosiect ar gael ar wefan y Cyngor. Gall trigolion Ceredigion barhau i dderbyn cymorth a chyngor ar sut i wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni drwy ymweld â'r adran 'Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni' ar wefan y cyngor.

Jeremy Nesbitt yw Rheolwr Gyfarwyddwr Affordable Warmth Solutions, sy’n gweinyddu’r gronfa ar ran y Grid Cenedlaethol. Dywedodd: “Rydym yn hynod gyffrous ynglŷn â’r buddsoddiad hwn gan y Grid Cenedlaethol ac rydym wrth ein bodd bod y cynllun wedi cael ei gydnabod gyda'r wobr hon. Mae datrys y materion sy'n gysylltiedig â Thlodi Tanwydd yn parhau i herio llawer o'n rhanddeiliaid ac mae'r adborth yr ydym wedi’i dderbyn eisoes yn dangos sut y bydd y Gronfa Cartrefi Cynnes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o gartrefi ledled Prydain Fawr." 

Mae’r Prosiect Cartrefi Cynnes (Caron Cynnes) ar ran City Energy Network hefyd wedi cyrraedd rhestr fer categori ‘Prosiect Ynni Preswyl y Flwyddyn’ Gwobrau Ynni 2021 a gynhelir ym mis Medi 2021.

Mae’r prosiect yn rhedeg rhwng mis Medi 2021 a mis Ionawr 2022 – i wneud cais ar gyfer y cynllun, cysylltwch â housing@ceredigion.gov.uk

 

16/09/2021