Cyn bo hir, gallai sawl ardal yng Ngheredigion gael mynediad at rai o'r cyflymderau rhyngrwyd cyflymaf yn y DU yn dilyn nifer o gyflenwyr yn cynnig prosiectau Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad (FTTP) ledled y Sir.

Daw hyn yn dilyn prosiect peilot a lansiwyd gan Lywodraeth y DU y llynedd, y Gronfa Uwchraddio Band Eang. Drwy waith caled ac ymroddiad sawl Cydlynydd Cymunedol a gyda chefnogaeth Swyddogion Cyngor Sir Ceredigion, mae cyflenwyr wedi amlinellu cynlluniau i sicrhau bod band eang ffeibr llawn hynod ddibynadwy sy’n gallu trosglwyddo data ar gyfradd gigabeit ar gael i gannoedd o gartrefi a busnesau ledled Ceredigion.

Mae nifer o gymunedau wedi'u nodi gan gyflenwyr preifat ar gyfer datblygu cynlluniau posibl, a bydd gwaith yn mynd rhagddo yn ystod y misoedd nesaf i archwilio a chynllunio datblygiadau ymhellach yn yr ardaloedd canlynol: Llanrhystud, Llanon, Cross Inn, Pennant, Cilcennin, Bethania, Penuwch, Llanwnnen, Llanybydder, Cwrt-Newydd, Tan y Groes, Penrhiw-pâl, Ffostrasol, Beulah, Sarnau, Tresaith, Cefn Llwyd, Rhos y Garth, Llanfihangel y Creuddyn, Ystumtuen, Aber Ffrwd, Cwmrheidol, Pontarfynach, Ponterwyd, Pontrhydfendigaid, Goginan, Bow Street, Tal y Bont, Clarach, Borth, Tre’r Ddol ac Eglwys Fach.

Ar gyfer pob ardal prosiect cymunedol, mae Cydlynydd Cymunedol wedi’i nodi i helpu i hwyluso cynigion rhwng y cyflenwyr preifat a'r gymuned leol. Mae'r Cyngor yn annog pawb i holi eu Cydlynwyr Cymunedol lleol i gadarnhau a fydd prosiectau'n cael eu cynnal yn eu hardal ac a ydynt yn gymwys i gael gwell gwasanaethau. Gellir cynnwys preswylwyr a busnesau o gymunedau cyfagos hefyd os oes digon o alw ac fe'u hanogir hefyd i holi'r cydlynwyr lleol.

Gall cyflenwyr uwchraddio eiddo cymwys o fewn ardaloedd prosiect drwy ddefnyddio'r Cynllun Talebau Gigabit Gwledig a ddarperir gan Lywodraeth y DU yn ogystal â Chronfa Taliadau Atodol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y gall eiddo preswyl ac eiddo busnes cymwys hawlio hyd at £3,000 a £7,000 yn y drefn honno am y gost o uwchraddio eu cysylltiad band eang presennol. Nid yw'n ofynnol i berchnogion eiddo gyfrannu at uwchraddio seilwaith Cysylltiad Ffeibr i’r Adeilad, er y bydd yn ofynnol iddynt dalu'r costau misol arferol sy'n gysylltiedig â chysylltiadau band eang eraill. Po fwyaf o eiddo sy'n ymuno â'r cynllun, y mwyaf fydd y gronfa sydd ar gael i fodloni’r costau seilwaith.

Mae’r Cynghorydd Clive Davies, Eiriolwr Digidol Cyngor Sir Ceredigion, yn cefnogi’r cynigion sy’n cael eu datblygu, gan ddatgan “Mae ffeibr llawn neu gysylltiad ffeibr i’r adeilad yn fwy dibynadwy a gwydn gyda chyflymderau cyson. Oherwydd y bydd defnyddio darnau hir o geblau copr yn dod i ben dros y blynyddoedd i ddod, mae'n bwysig bod cynifer o bobl a busnesau yng Ngheredigion â phosibl yn manteisio ar y cyfle hwn. Mae ffeibr yn paratoi at y dyfodol, ac yn gallu diwallu anghenion data cynyddol o dechnolegau newydd yn ogystal â gofynion gweithio gartref a dysgu gartref”.

“Mae'n bwysig nodi bod yn rhaid i breswylwyr a busnesau yn yr ardaloedd hyn fod yn rhagweithiol i ymgysylltu â'u cydlynwyr lleol a chofrestru eu diddordeb yn y cynlluniau arfaethedig. Ni all y Cyngor argymell na chefnogi prosiectau unigol gan gyflenwyr preifat, ond gall ein swyddogion sicrhau eich bod yn cael eich rhoi mewn cysylltiad â'r Cydlynwyr Cymunedol lleol”.

Bydd y prosiectau ffeibr sirol hyn yn cael eu rheoli a’u cyflwyno drwy gyflenwyr preifat, ac unwaith y bydd aelodau'r cyhoedd a busnesau yn cael gwybod am yr ystod o gyflenwyr sydd bellach yn gweithredu yn eu hardal trwy eu Cydlynwyr Cymunedol, dylid cyfeirio ymholiadau atyn nhw. Bydd swyddogion y Cyngor  hefyd yn parhau i fod yn rhagweithiol wrth gefnogi a darparu cyngor lle bo hynny'n briodol. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am waith y Cyngor a chanllaw defnyddiol i helpu i wella cysylltedd ar dudalen camau ar gyfer gwell cysylltiad.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gael gwybod pwy yw eich Cydlynydd Cymunedol lleol, cysylltwch â digidol@ceredigion.gov.uk

11/03/2021