Ar nos Sadwrn, 21 Ebrill am 7:30yh bydd cwmni Ysgol Theatr Maldwyn yn perfformio cynhyrchiad newydd a chyffrous o’r sioe ‘Y Cylch’ yn Theatr Felinfach a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn 1983. Stori wedi ei lleoli mewn clwb nos yw hon, sy’n alegori ar sut mae bywyd yn troi mewn cylch ac sy’n cynnwys caneuon cofiadwy, nodweddiadol o sioeau Theatr Maldwyn dros y blynyddoedd gan y triawd Derec Williams, Penri Roberts a Linda Gittins.

Sefydlwyd Ysgol Theatr Maldwyn yn 2004 ac ers hynny, mae'r cwmni wedi creu nifer o gynhyrchiadau gan gynnwys sioeau newydd fel "Crib, Siswrn a Rasel" a "Llwybr Efnisien", hefyd wedi eu hysgrifennu gan Derec Williams, Penri Roberts a Linda Gittins, yn ogystal â chynhyrchiadau newydd o ‘Nia Ben Aur’ a ‘Pum Diwrnod o Ryddid’. Ymwelodd Ysgol Theatr Maldwyn â Theatr Felinfach ddiwethaf ddwy flynedd yn ôl gyda’r sioe ‘Mela.’

Mae nod cwmni Ysgol Theatr Maldwyn yn debyg iawn i Theatr Felinfach, sef cynnig cyfleoedd i bobl ifanc y Canolbarth ddysgu sgiliau theatr, megis canu, actio a dawnsio. Mae’r cwmni iau yn cwrdd ar nos Iau yng Nghanolfan Y Banw â’r cwmni hŷn ar nos Fawrth yng Nghanolfan Glantwymyn.

Babi Cwmni Theatr Maldwyn yw Ysgol Theatr Maldwyn. Ffurfiwyd Cwmni Theatr Maldwyn yn 1981 i berfformio ‘Y Mab Darogan’ yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Ers hynny, mae’r cwmni wedi perfformio sioeau mewn theatrau ledled Cymru gan gynnwys: ‘Y Cylch’, ‘Y Llew a'r Ddraig’, ‘Pum Diwrnod o Ryddid’, ‘Myfi Yw’, ‘Heledd’ ac ‘Ann!’. Ail-ffurfiodd y cwmni i berfformio ‘Gwydion’ a ysgrifennwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2015 gan y diweddar Derec Williams, Penri Roberts a Gareth Glyn.

Tocynnau yn £10 i oedolion, £9 i aelodau ac £8 i blant. Mae tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein ar www.theatrfelinfach.cymru.

 

16/04/2018