Cynhaliwyd cynhadledd lwyddiannus ar gyfer staff y sector gofal plant ar 16 Tachwedd 2019. Thema’r gynhadledd eleni oedd ‘Galluogi Hawliau Plant’.

Siaradwyr gwadd o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fu’n cyflwyno gweithdy’r bore, a oedd yn cynnig digon o gyfleoedd i staff drafod. Ar ôl y gynhadledd, dywedodd darparwyr eu bod yn teimlo’n fwy hyderus i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu rhoi ar waith yn eu lleoliadau.

Roedd Hawliau Plant yn thema amserol ar gyfer cynhadledd eleni oherwydd bod mis Tachwedd 2019 yn nodi 30 mlynedd ers Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gynnwys yr hawliau hynny yn rhan o’i chyfraith. Mae’r gyfraith yn rhoi hawl i blant a phobl ifanc beidio â chael eu trin yn wahaniaethol, yn dreisgar neu’n esgeulus, ac i dyfu’n hapus, yn iach, ac yn ddiogel.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Mae Uned Gofal Plant y cyngor yn mynd o nerth i nerth ac wedi arwain y ffordd o ran gweithredu’r Cynnig Gofal Plant. Rwy’n credu ei bod hi’n wych eu bod nhw’n trefnu digwyddiad er mwyn i ddarparwyr gofal plant o ledled y sir ddod at ei gilydd a dysgu. Gall hyn ond cefnogi’r sector yn y sir ac arwain at lefelau gofal gwell i’n plant.”

Dywedodd un darparwr y byddent yn “cynnig mwy o opsiynau a dewisiadau, ac yn gadael i blant arwain y ffordd yn fwy aml” ar ôl dysgu am Hawliau Plant, a dywedodd un arall ei bod hi wedi bod yn “ddiwrnod addysgiadol da”.

Roedd gweithdai’r prynhawn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru a diweddariad ynghylch Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth ac Adolygiadau Ansawdd Gofal Arolygiaeth Gofal Cymru. Rhoddodd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd gyflwyniad ar Dewis Cymru a phwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ar eu gwefan. Mae Dewis Cymru yn gyfeiriadur i deuluoedd gael gwybod pa wasanaethau sydd ar gael yn eu hardal.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch darparwyr gofal lleol yng Ngheredigion ar gael ar dudalen Gofal Plant y cyngor.

Trefnir y Gynhadledd Gofal Plant flynyddol gan Uned Gofal Plant Cyngor Sir Ceredigion ac mae’n agored i bob math o ddarparwyr gofal. Mae hyn yn cynnwys darparwyr megis gwarchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, cylchoedd meithrin, cylchoedd chwarae, clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau. Ariennir y gynhadledd gan grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru.

23/12/2019