Heddiw, ar Ddiwrnod y Gwasanaethau Brys, mae’r Cyngor yn rhoi teyrnged i'r 2 filiwn o bobl sy'n gweithio ac yn gwirfoddoli i’r Gwasanaeth Iechyd a'r gwasanaethau brys ar draws y Deyrnas Unedig.

I ddangos cefnogaeth, bydd baneri'r Gwasanaethau Brys yn cael eu codi a'u hedfan drwy gydol y dydd ym mhrif adeiladau’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Heddiw a phob diwrnod arall rydym yn hynod ddiolchgar i'n GIG a'n gwasanaethau brys anhunanol am eu cyfraniad i wasanaethu ac am amddiffyn ein cymunedau ledled Ceredigion, a'r wlad.”

Ewch i @Official999Day ar Facebook ac Instagram, a @999Day ar Twitter i gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.  

 

19/10/2022