Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol ledled Ceredigion i gefnogi sefydliadau lleol, gan gynnwys grwpiau cymunedol a busnesau bach, i uwch-lwytho eu manylion ar gyfarwyddiadur (directory) ar-lein Cymru gyfan. Unwaith iddo gael ei sefydlu, bydd trigolion Ceredigion yn gallu darganfod yr adnoddau helaeth sydd yn y sir.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu Dewis Cymru fel eu cyfarwyddiadur dewisol i helpu sefydliadau lleol a grwpiau yng Ngheredigion i ddod o hyd i gynulleidfa newydd ar gyfer y digwyddiadau a chyfleoedd maent yn darparu. Gall unrhyw sefydliad uwch-lwytho eu manylion ar wefan Dewis Cymru, gan gynnwys elusennau, clybiau chwaraeon, grwpiau cymunedol a busnesau bach. Unwaith bod y wybodaeth ar y wefan, gall drigolion lleol chwilio ar y cyfarwyddiadur a dod o hyd i’r cyfleoedd yn eu hardal.

Gall hyd yn oed unigolion a’r grwpiau cymunedol lleiaf uwch-lwytho eu gwybodaeth ar Dewis Cymru i roi gwybod i drigolion Ceredigion am y cyfleoedd, adnoddau a gwasanaethau maent yn cynnig. Gobeithir y bydd Dewis Cymru yn cael ei ddefnyddio yn eang gan drigolion Ceredigion i ddod o hyd i’r cyfleoedd maent eisiau neu’r gwasanaethau maent ei angen.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Ray Quant MBE, “Mae Dewis Cymru yn cynnig y cyfle i grwpiau a sefydliadau o bob math i ddod o hyd i’w cynulleidfa ac i gefnogi eu cymunedau. Os oes clwb ieuenctid yn cwrdd yn ystod yr wythnos; os oes capel yn cynnal bore coffi rheolaidd; os oes person yn rhedeg busnes bach yn y sir neu os oes grŵp o ffrindiau yn trefnu teithiau cerdded yn yr ardal, gallent adael i bobl wybod am y gwaith da maent yn gwneud yn y gymuned. Felly, mae modd iddynt ddod ar draws pobl sydd â diddordeb mewn mynychu neu i wneud defnydd o wasanaeth. Mae hwn yn gyfle go iawn i ddod â chymunedau a phobl debyg at ei gilydd.”

Cynhelir y digwyddiadau gwybodaeth ar Dewis Cymru yn:
• Llyfrgell Aberystwyth ar 9 Chwefror 1:00yp-5:00yp
• Llyfrgell Aberaeron ar 16 Chwefror 10:00yb – 5:00yp
• Neuadd Buddug, Llambed ar 23 Chwefror 10:00yb – 5:00yp
• Neuadd y Dref, Aberteifi ar 28 Chwefror 10:00yb – 5:00yp

Mae’r Cyngor yn hyfforddi staff i uwch-lwytho gwasanaethau’r Cyngor ar Dewis Cymru. Bydd Dewis Cymru yn chwarae rôl allweddol yn nhrawsnewidiad gofal cymdeithasol y Cyngor gan y bydd yn galluogi trigolion i helpu eu hunain trwy ddarganfod adnoddau sydd eisoes yn yr ardal y gall gefnogi lles pobl.

I ddysgu mwy am Dewis Cymru, ewch i’w gwefan ar www.dewis.cymru. Os hoffech wybod mwy am Dewis Cymru yng Ngheredigion a sut i uwch-lwytho gwybodaeth am eich grŵp, sefydliad neu fusnes, cysylltwch â ni ar 01545 570881 a gofyn am Cyra Shimell neu e-bostiwch Cyra.Shimell@ceredigion.gov.uk.

25/01/2018