Mae cynghorwyr Ceredigion wedi cefnogi cynnig sy'n galw ar Gronfa Bensiwn Dyfed i ddadfuddsoddi o ddaliadau gyda chwmnïau tanwydd ffosil o fewn dwy flynedd. Cronfa Bensiwn Dyfed yw'r gronfa a ddefnyddir gan staff a chynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ynghyd â chyrff cyhoeddus eraill yn yr ardal.

Mae'r cynnig yn nodi bod gan lawer o gronfeydd pensiwn llywodraeth leol, gan gynnwys Dyfed, ddaliadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd ar hyn o bryd.

Ar ôl ymrwymo eisoes i fod yn awdurdod lleol carbon niwtral net erbyn 2030, mae'r cynnig yn nodi cyngor diweddar gan Lywodraethwr Banc Lloegr ynghylch y risg ariannol i gwmnïau sy'n methu â symud tuag at ddim allyriadau carbon.

Cynigiwyd y cynnig gan y Cynghorydd Alun Williams, Hyrwyddwr Cynaliadwyedd y cyngor. Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Elizabeth Evans.

Dywedodd y Cynghorydd Williams: “Mae Cyngor Ceredigion eisoes wedi cymryd camau mawr i leihau ei allyriadau carbon ac mae'n llunio cynllun cynhwysfawr i ddod yn awdurdod lleol carbon niwtral net yn y dyfodol. Felly, mae'n anffodus nad yw polisïau buddsoddi Cronfa Bensiwn Dyfed yn cyd-fynd â hyn ar hyn o bryd. Fel un o'r sefydliadau cyhoeddus sy'n cymryd rhan yn y gronfa, mae'n bwysig ein bod yn anfon neges at reolwyr ariannu bod yn rhaid iddynt gydnabod argyfwng hinsawdd y byd yn eu penderfyniadau yn y dyfodol a dadfuddsoddi mewn daliadau gyda'r cwmnïau tanwydd ffosil sy'n cyfrannu fwyaf at yr argyfwng. Rwy'n arbennig o falch o weld, wrth i'r cynnig hwn gael ei basio, ein bod bellach yn gweithio gyda'n cymdogion Cyngor Sir Gaerfyrddin sy'n rhan o'r un gronfa ac sydd wedi cymryd penderfyniad yr un mor flaengar.”

Mae'r cynnig hefyd yn nodi bod cynghorau eraill Cymru wedi cymeradwyo cynigion yn galw am ddadfuddsoddi, a bod yr alwad yn cael ei chefnogi gan Undeb Llafur Unsain.

23/01/2020