Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi datgan argyfwng hinsawdd byd-eang mewn cyfarfod o’r Cyngor ar 05 Mawrth 2020.

Mae'r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i sicrhau bod Ceredigion yn awdurdod lleol carbon net sero erbyn 2030, ac i ddatblygu cynllun clir ar gyfer llwybr a fydd yn arwain at garbon sero net o fewn 12 mis.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor, gynigodd y cynnig. Meddai: “Rwy’n falch iawn bod Cyngor Sir Ceredigion wedi datgan argyfwng hinsawdd byd-eang. Rydym yn ymroddgar i ddiogelu’r amgylchedd a gwneud yr hyn a allwn i leihau ein hôl troed carbon. Rydym wedi lleihau ein hallyriadau carbon blynyddol 45% ers 2007. Mae gennym nifer o brosiectau yr ydym yn gweithio tuag atynt ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn lleihau ein hallyriadau carbon ymhellach fyth.”

Eiliodd y Cynghorydd Mark Strong y cynnig a dywedodd: “Mae’r datganiad yma yn cydymffurfio gydag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Wrth symud ymlaen, yr amcan yw lleihau ein defnydd carbon yn ein cartrefi a sicrhau defnydd gorau o greu egni yn lleol. Mae hyn i wneud yn siwr ein bod yn lleihau ein defnydd carbon yn sylweddol.”

Mae'r penderfyniad hwn yn cefnogi dwy o Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor, sef Buddsoddi yn Nyfodol y Bobl a Hyrwyddo Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol.  

05/03/2020