Mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 12 Ebrill, cytunodd Cynghorwyr Sir Ceredigion ar ymateb i’w gyflwyno i adolygiad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar drefniadau etholiadol. Mae’r ymateb yn manylu barn y Cyngor o gynigion y Comisiwn i newid ffiniau wardiau yng Ngheredigion.

Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen gwleidyddol gytbwys o Gynghorwyr i ystyried cynigion drafft y Comisiwn. Drafftiodd y Grŵp ymateb i’r cynigion a chyflwynwyd y drafft i’r Cyngor Llawn i ystyried. Cafodd yr ymateb drafft a argymhellwyd ei newid yn y cyfarfod yn dilyn trafodaeth fanwl ar ffiniau ward ledled y sir.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mewn proses a fyddai’n gweld wardiau a sefydlwyd ar linellau cymunedol ymhell yn ôl yn cael eu newid neu eu disodli, does dim syndod bod Cynghorwyr wedi trafod y cynigion yn drwyadl er mwyn sicrhau bod trigolion Ceredigion yn parhau i’w cael eu cynrychioli mor effeithiol â phosib. Bydd y Comisiwn nawr yn gwneud eu hargymhellion terfynol ar gyfer penderfyniad yr Ysgrifennydd Cabinet.

Bwriad cynigion y Comisiwn yw cynllunio ffiniau ward i greu cymhareb o un Cynghorydd i bob 1,384 etholwr yng Ngheredigion. Mae’r ffiniau ward cyfredol yn dangos cymhareb gyfartalog o un Cynghorydd sir i bob 1,252 etholwr. Byddai cynigion y Comisiwn yn gweld y nifer o Gynghorwyr Sir yng Ngheredigion yn lleihau o 42 i 38. Mae ymateb y Cyngor yn cytuno â nifer o gynigion y Comisiwn, ond yn anghytuno ag eraill ac yn cynnig cynigion arall yn eu lle.

16/04/2018