Mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 24 Ionawr 2018, fe gymeradwyodd Cyngor Sir Ceredigion gynnig yn nodi pryder dros gyflwyniad Credyd Cynhwysol yng Ngheredigion ym mis Medi 2018.

Cynigwyd y cynnig gan Bencampwr Tlodi’r Cyngor ac Aelod Cabinet y Cyngor â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dechrau'n Deg a'r Tîm o Amgylch y Teulu, y Cynghorydd Catrin Miles. Eiliwyd y cynnig gan yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Catherine Hughes. Mae’r cynnig yn nodi bod cynllun Credyd Cynhwysol Llywodraeth San Steffan yn achosi argyfwng cymdeithasol a bod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol y tu allan i Gymru wedi achosi anawsterau ariannol difrifol i filoedd o bobl.

Mae’r cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau trafodaethau â Llywodraeth y DU er mwyn mynnu datganoli pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn caniatáu hyblygrwydd taliadau ac elfen dai y Cynllun Credyd Cynhwysol er mwyn diogelu pobl fwyaf bregus Cymru o'r anawsterau a brofwyd mewn mannau eraill. Mae’r cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu fframwaith cyllidol fydd yn caniatáu datganoli'r elfennau nawdd cymdeithasol hyn ac i fynnu bod taliad am rhent yn mynd yn uniongyrchol i’r landlord, er mwyn atal digartrefedd a sicrhau to dros bennau’r hawlwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae newid i’r system budd-daliadau ar droed yng Ngheredigion, felly mae rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y newidiadau yn cael eu gwneud mewn ffordd deg sy’n hybu lles pobl y sir. Mae cymeradwyaeth o’r cynnig yn anfon neges glir bod y Cyngor o’r farn bod angen eiriolaeth bellach ar ran trigolion Ceredigion.”

Trafododd a chymeradwyodd y Cynghorwyr y cynnig. Bydd y cynnig nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

01/02/2018