Mae aelodau Cabinet ac uwch swyddogion yng Ngheredigion wedi arwyddo ‘Fy Siarter’. Wrth wneud hynny, Cyngor Sir Ceredigion yw’r cyngor cyntaf i ymrwymo i’r siarter. Ysgrifennwyd Fy Siarter gan bobl sydd ag anableddau dysgu yng Ngorllewin Cymru.

Mae’r siarter yn dweud bod pobl sydd ag anableddau dysgu am gael mwy o gyfleoedd mewn bywyd, mwy o ddewis ac i bobl i wrando arnynt. Mae hefyd yn dweud bod pobl sydd ag anableddau dysgu am gael eu trin fel oedolion, i gael urddas a pharch ac i’w gwybodaeth gael ei chadw’n breifat.

Y Cynghorydd Alun Williams yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Oedolion. Dywedodd, “Mae gan bobl ag anableddau dysgu yr un dyheadau, gobeithion a theimladau â phawb arall. Maent yn haeddu’r un gwasanaethau ac i gael eu trin yn gyfartal mewn ffordd sy’n briodol i’w hanghenion. Rwy’n falch iawn mai Ceredigion yw’r cyngor cyntaf i lofnodi’r siarter, ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut y gall hyn ddylanwadu’n gadarnhaol ar y ffordd y caiff ein poblogaeth o bobl ag anableddau dysgu eu trin yn y dyfodol.”

Datblygwyd y siarter gan bobl sydd ag anableddau dysgu o bob rhan o Geredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

17/07/2019