Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dathlu Diwrnod y Gwasanaethau Brys ar 9 Medi i dalu teyrnged i’r miliynau o bobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli i’r Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau brys.

Mae Diwrnod y Gwasanaethau Brys yn hyrwyddo gwaith y gwasanaethau brys, yn annog pobl i’w defnyddio yn gyfrifol ac yn addysgu'r cyhoedd ynglŷn â sgiliau achub bywyd sylfaenol. Hefyd mae’n hyrwyddo'r cyfleoedd niferus o ran gyrfa a gwirfoddoli sydd ar gael drwy’r gwasanaethau brys. 

Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o deulu'r gwasanaethau brys ac maen nhw’n chwarae rhan ganolog wrth gadw Prydain yn ddiogel. Mae rolau gwirfoddol 999 yn cynnwys: Cwnstabliaid Arbennig, Diffoddwyr Tân wrth gefn, Ymatebwyr Cymunedol y GIG, Ambiwlans Sant Ioan, yr RNLI, timau Chwilio ac Achub a Gwylwyr y Glannau.

Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor: “Dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf rydym wedi gweld y gwasanaethau brys yn peryglu eu bywydau hyd yn oed yn fwy er mwyn amddiffyn ein pobl a'n cymunedau.

“Dyma gyfle inni ddangos ein parch a’n diolch iddynt am eu gwaith caled a hefyd i gofio'r rhai sydd wedi colli eu bywydau ar ddyletswydd. Maen nhw i gyd yn gwbl ragorol.”

I ddangos cefnogaeth, bydd baneri’r Cyngor yn cael eu hedfan yn y lleoliadau canlynol:

  • Canolfan Rheidol, Aberystwyth
  • Canolfan Alun R. Edwards, Aberystwyth; a
  • Neuadd y Sir, Aberaeron

31/08/2021