Ar 25 Hydref, cefnogodd Cyngor Sir Ceredigion gynnig yn adnabod ymgyrch WASPI (Menywod yn erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth).

Mae’r cynnig yn cydnabod bod y 5,000 o fenywod yng Ngheredigion sydd wedi eu heffeithio gan y newid i’r pensiwn gwladol yn wynebu heriau wrth geisio dal dau ben llinyn ynghyd.

Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn gynigodd y cynnig. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Clive Davies.

Mae cynnig y Cyngor yn gwerthfawrogi nad yw menywod WASPI yn gofyn am ostyngiad yn yr oedran derbyn pensiwn gwladol - ond yn hytrach ymgyrchu am drefniadau trawsnewidiol ar gyfer bob menyw sy’n cael ei heffeithio gan y newid.

Dywedodd y Cynghorydd ap Gwynn, “Mae’r cynnig yma, a’r ymgyrch yn ehangach yn anelu i sicrhau tegwch i bawb. Nid yw’r ymgyrch yn gofyn bod menywod yn cael eu trin yn fwy ffafriol na dynion. Mae e’n gofyn bod y newid yn cael ei wneud mewn ffordd well sydd ddim yn trin menywod a gafodd eu geni yn y 1950au yn annheg.”

Cytunodd y Cyngor hefyd i gefnogi ymgyrch WASPI ac i gynrychioli menywod Ceredigion gerbron Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

25/10/2018