Yn dilyn wythnos y ffoaduriaid ym mis Mehefin, mae trigolion Ceredigion yn cael eu hannog i ystyried cymryd rhan mewn cynllun Cefnogaeth Gymunedol i gefnogi ffoaduriaid Syriaidd yn eu cymunedau.

Lansiwyd Cefnogaeth Gymunedol yn 2016 ac mae’n rhoi’r gallu i grwpiau gwirfoddol lleol ailsefydlu teulu o ffoaduriaid yn eu cymuned.

Mae dau gynllun Cefnogaeth Gymunedol - Aberaid a Croeso Teifi - eisoes wedi’u sefydlu yng Ngheredigion. Mae’r ddau gynllun wedi ailsefydlu dau deulu o dan nawdd cymunedol.

Dywedodd Lindsey Gilroy o Aberaid yn Aberystwyth, “Nid yw’n hawdd. Mae’n rhaid i chi godi o leiaf £9,000 i dalu am gostau fel cyfieithu, dodrefnu’r tŷ a gwersi Saesneg. Mae’n rhaid i chi hefyd gael cymeradwyaeth gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae angen iddyn nhw fod yn hyderus ein bod ni’n sefydliad sy’n gallu darparu’r cymorth parhaus sydd ei angen ar y teuluoedd.”

"Fodd bynnag, er gwaetha’r heriau, mae cefnogaeth gymunedol yn broses anhygoel o rymuso a thrawsnewidiol o gymryd arweinyddiaeth o’r gwaelod i fyny. Rydym i gyd wedi arfer mynnu camau gweithredu gan y Llywodraeth ond mae cefnogaeth gymunedol yn galluogi pobl i fynd â materion i’n dwylo ein hunain a’u gwneud ein hunain, sy’n hynod gadarnhaol.”

Cytunodd Vicky Moller o Croeso Teifi yn Aberteifi. Dywedodd, "Mae’r cyngor wedi bod yn wych, ond mae llawer o gamau biwrocrataidd i wneud. Ond mae’n werth chweil iawn. Mae’r teuluoedd rydym wedi eu croesawu i Aberteifi yn ddiolchgar iawn ac yn awyddus iawn i gyfrannu at fywyd lleol. Cyrhaeddodd ein teulu cyntaf yn 2017 ac mae’r plant yn siarad Cymraeg a Saesneg erbyn hyn.”

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac mae’n Gadeirydd Grŵp Ailsefydlu Ffoaduriaid Ceredigion. Dywedodd, “Mae cefnogaeth gymunedol yn ymrwymiad mawr, ond yn hynod werthfawr. Mae’n ffordd ymarferol i bobl leol ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid byd-eang.”

"Mae’r ffoaduriaid wedi dweud eu bod yn ddiolchgar am y croeso gwirioneddol a gawsant yn y DU, ac mae cymunedau Ceredigion wedi bod yn enghraifft wych o’r croeso cynnes hwn.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at ailsefydlu ffoaduriaid yng Ngheredigion, gallwch ddarllen mwy am gefnogaeth gymunedol ar https://www.gov.uk/government/publications/apply-for-full-community-sponsorship neu siarad gyda Cathryn Morgan yng Nghyngor Sir Ceredigion drwy ffonio 01545 570 881 neu e-bostio cathryn.morgan@ceredigion.gov.uk.

Mae’r cyngor yn chwilio am ddau eiddo arall yn y sector rhentu preifat i gyflawni eu haddewid i ailsefydlu 50 o ffoaduriaid yng Ngheredigion erbyn diwedd 2019. Os gallwch chi helpu o gwbl, gallwch ffonio’r cyngor a gofynnwch i siarad â Cathryn Morgan.

15/07/2019