Yn dilyn consyrn nad yw rhai aelodau o’r cyhoedd yn cadw at y rheolau hunanynysu yn llwyr, mae Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus i atgoffa trigolion Ceredigion o ganllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu ein cymunedau.

Mae’n rhaid i chi hunanynysu:

  • os ydych wedi derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19;
  • os oes gennych symptomau COVID-19 ac heb gael prawf, neu’n aros am ganlyniad prawf;
  • os ydych yn byw gyda rhywun sydd â symptomau a all fod wedi’u hachosi gan COVID-19, neu sydd wedi cael canlyniad prawf positif COVID-19 (hyd yn oes os ydych chi wedi cael canlyniad prawf negatif).

Os oes gennych symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunanynysu gartref am o leiaf 10 diwrnod o pan wnaeth eich symptomau ddechrau. 

Os ydych wedi cael canlyniad prawf positif, rhaid i chi hunanynysu am o leiaf 10 diwrnod o ddiwrnod y ddechreuodd y symptomau, hyd yn oed os nad oes gennych symptomau. Os ydych yn datblygu symptomau yn ystod y cyfnod hunanynysu, rhaid i chi ail-ddechrau’r cyfnod hunanynysu o’r diwrnod y dechraeuodd eich symptomau.

Os ydych yn byw gyda rhywun sydd â symptomau COVID-19, neu sydd wedi cael canlyniad prawf positif COVID-19, rhaid i bob aelod o’r aelwyd hunanynysu am 14 diwrnod. Os bydd unrhyw un arall o’r aelwyd yn dechrau dangos symptomau yn ystod y cyfnod hunanynysu, rhaid iddynt aros adref am 10 diwrnod o pan ddechreuodd eu symptomau nhw, hyd yn oed os ydynt bron ar ddiwedd y cyfnod hunanynysu gwreiddiol. 

Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau COVID-19 hunanynysu ar unwaith a threfnu i gael prawf. Yn y cyfamser, dylech chi a phob aelod o’r cartef aros gartref. Os bydd eich symptomau’n gwaethygu, dylid ceisio cyngor meddygol yn syth. Os nad yw’n fater brys, cysylltwch â GIG 111 Cymru. Peidiwch ymweld â’ch meddyg teulu na chwaith mynd i’r ysbyty.

Cofiwch, mae aros gartref yn golygu hyn:

  • Peidio â mynd i’r gwaith, oni bai eich bod yn gweithio o adref;
  • Peidio â mynd i’r ysgol nac i unrhyw ardal gyhoeddus;
  • Peidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus;
  • Peidio â mynd i siopa, hyd yn oed i brynu bwyd neu hanfodion eraill;
  • Peidio â derbyn ymwelwyr i’ch cartref;
  • Rhaid i chi wneud unrhyw ymarfer corff yn eich cartref.

Os ydych angen cymorth i brynu bwyd neu hanfodion eraill bydd angen i chi ofyn i ffrindiau neu berthnasau. Mae nifer o grwpiau gwirfoddol all gefnogi chi yn ogystal, ac mae manylion ynghylch y rhai yn eich hardal chi i’w cael yma ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/adnoddau/busnesau-syn-dosbarthu-bwyd-a-phrydau/

Mae’n hanfodol bwysig eich bod yn cadw at y rheolau hyn er mwyn diogelu chi eich hunan, a’ch cymuned. Gellir cael manylion llawn am hunanynysu ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/hunanynysu-canllawiau-aros-gartref-i-aelwydydd-coronafeirws-posibl

17/09/2020