Yr wythnos hon, mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymuno â 2,000 o grwpiau cymunedol eraill i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol, sy'n cael ei gynnal rhwng 11-17 Tachwedd. Dan arweiniad Alcohol Change UK, mae'r ymgyrch yn amlygu'r effaith y gall alcohol ei chael ar ein cyrff, ein bywydau a'r rhai yr ydym yn eu caru, a sut y gallwn, drwy wneud newidiadau i'n hymddygiad yfed, ddod yn iachach a lleihau'r risg i lawer o gyflyrau iechyd difrifol gan gynnwys canser, problemau iechyd meddwl, a chlefyd yr afu.

Sawl uned sydd mewn peint o gwrw neu wydr o win? Faint o amser mae’n ei gymryd i’ch corff gwaredu alcohol? A beth mae alcohol yn ei wneud pan fydd yn cyrraedd eich ymennydd? Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael ei harchwilio ar gyfer yr ymgyrch eleni – darganfyddwch yr atebion i’r cwestiynau hyn ar y wefan: https://alcoholchange.org.uk/cymraeg.

Yn ystod y wythnos, bydd stondin wybodaeth yn swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron a Chanolfan Rheidol yn Aberystwyth lle bydd manylion cyswllt ar gyfer Cysylltwyr Cymunedol ar gael.

Mae Cysylltwyr Cymunedol yn gwrando ar breswylwyr sy'n awyddus i helpu i ddod o hyd i atebion wedi'u targedu sy'n diwallu anghenion y preswylwyr. Gallwch ddarllen mwy am waith Arweinydd Tîm y Cysylltwyr Cymunedol, Cyra Shimell yn ei erthygl 'Diwrnod yn fy mywyd' sydd yn yr adran newyddion ar wefan y Cyngor.

Mae amcangyfrifon yn dangos nad yw 84% o bobl yn ymwybodol o'r canllawiau yfed risg isel swyddogol, sy'n golygu nad oes gan y mwyafrif llethol y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus am eu hyfed.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD), ar gyfer pob atgyfeiriad i mewn i system trin camddefnyddio sylweddau Dyfed. Gallant ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad i unrhyw un sydd â phroblem cyffuriau a/neu alcohol. Gallant hefyd ddarparu ymyriadau byr, ymyriadau seicogymdeithasol, cyd-gymorth a grwpiau cymorth gan gymheiriaid, allgymorth a mwy. Cysylltwch â nhw ar 01443 226864 neu confidential@d-das.co.uk neu cysylltwch â Phorth y gymuned ar 01545 574200.

Dyma restr o ffeithiau sy’n ymwneud ac alcohol:

  • Bob blwyddyn, mae alcohol yn ffactor ym marwolaethau 24,000 o bobl yn y DU a dyma'r ffactor risg mwyaf ar gyfer marwolaethau ymysg pobl sydd rhwng 15-49 oed.
  • Mae derbyniadau i'r ysbyty oherwydd clefyd yr afu alcoholig yn Lloegr wedi cynyddu 43% yn y 10 mlynedd diwethaf.
  • Yn Lloegr, amcangyfrifir bod 589,101 o yfwyr dibynnol ac mae llai nag 20% yn derbyn triniaeth.
  • Mae tua 200,000 o blant yn Lloegr yn byw gyda rhiant neu ofalwr sy'n dibynnu ar alcohol a all gael effeithiau negyddol gydol oes ar eu hiechyd a'u lles.
  • Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod camddefnyddio alcohol yn costio £3.5 biliwn i'r GIG, ac amcangyfrifir bod 167,000 o flynyddoedd o fywyd gwaith yn cael eu colli o ganlyniad i alcohol.

Dywedodd Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Ceredigion a Dirprwy Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol: "Nod Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol yw cael pobl i feddwl a siarad am alcohol, er mwyn ysgogi newid ar bob lefel – yn unigol, yn gymunedol ac yn genedlaethol. Nod y Cyngor yw helpu i ledaenu'r ymwybyddiaeth hon a chyfeirio trigolion at y cymorth a'r gefnogaeth iawn sydd ar gael yma yng Ngheredigion. Os ydych chi neu rywun sy'n agos atoch yn dioddef niwed i alcohol, rhowch amser i gael y cymorth sydd ei angen arnoch, gallwch wneud y dewisiadau cywir."

Dywedodd Dr Richard Piper, Prif Weithredwr Alcohol Change UK: "Gall fod yn hawdd llithro i arferion drwg wrth i ni yfed. Ond gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i'n hiechyd. Gellir osgoi niwed alcohol ac eto mae'n dal i fod yn ffactor ym marwolaeth tri pherson bob awr. Mae'n gorfod newid. Yn ogystal â'r niwed a achosir i unigolion, gall alcohol hefyd gael effaith andwyol sylweddol ar y rheini o'n hamgylch, gan gynnwys y 200,000 o blant yn Lloegr sy'n byw gyda rhiant sy'n dibynnu ar alcohol.

"Felly, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol eleni yn ymwneud â helpu pobl i ddeall peryglon yfed yn well a darparu cyngor ar sut y gallwn ni newid ein hymddygiad yfed er gwell. Gall hyn fod mor syml â bod yn siŵr o gael ychydig o ddyddiau lle dydych chi ddim yn yfed diod alcoholig, gan ddewis yn fwriadol y diodydd cryfder isaf, gwneud i bob un arall yfed yn ddi-alcoholig, neu lawrlwytho ap, er enghraifft, ‘Try Dry’, i olrhain eich yfed a'ch cadw’n frwdfrydig." 

11/11/2019