Mae Cyngor Sir Ceredigion yn lansio cynllun prentisiaeth newydd a fydd yn helpu pobl ifanc sy’n byw yng Ngheredigion gael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Bydd y cynllun yn derbyn ceisiadau o ddydd Llun 13 Awst tan ddydd Llun 10 Medi 2018.

Cynigir cyfleoedd prentisiaeth gyda’r timau Gofal Cymdeithasol, Adnoddau Dynol, a Gwaith Ieuenctid. Bydd prentisiaid yn cydweithio ag aelodau profiadol o staff am gyfnod o 12 mis, yn astudio tuag at gymhwyster galwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn gweithio gyda mentor ymroddgar a fydd yn cynnig cymorth iddynt yn y gwaith.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cydweithio ag Unsain i ddatblygu eu cynllun yn unol â Siarter Brentisiaeth Unsain.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Bobl a Threfniadaeth, “Croesawaf y fenter newydd hon a fydd yn cynnig cymorth i bobl ifanc roi hwb i’w gyrfa a’r cyfraniad y byddant yn ei wneud at ddatblygu Cyngor Sir Ceredigion.”

Os oes gennych unrhyw ymholiad yn ymwneud â phrentisiaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion, ebostiwch prentis@ceredigion.gov.uk.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am brentisiaeth, ewch i www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/swyddi-a-gyrfaoedd ar wefan y Cyngor Sir am ragor o wybodaeth.

03/08/2018