Yn ystod cyfarfod o’r Cyngor llawn a gynhaliwyd yn rhithiol ddydd Iau, 3 Mawrth, rhoddodd Cynghorwyr eu cefnogaeth lawn i unrhyw gymorth angenrheidiol i helpu pobl sy'n ceisio lloches o Wcráin.

Tynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Grŵp Adleoli Ffoaduriaid Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Ceredigion, sylw at y ffaith bod Cymru’n Genedl Noddfa a bod Ceredigion wedi llwyddo i ddarparu lle i fyw i bobl sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi yn y gorffennol oherwydd rhyfel yn eu gwledydd, megis Syria ac Afghanistan.

Yr wythnos hon, fe wnaeth Cyngor Sir Ceredigion oleuo Canolfan Alun R. Edwards a’r bandstand yn Aberystwyth yn las a melyn i ddangos cefnogaeth i bobl Wcráin.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi unrhyw gamau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i helpu pobl Wcráin sydd angen noddfa rhag y rhyfela ofnadwy yn eu gwlad. Byddwn ni yma yng Ngheredigion yn hapus i’w croesawu pan fydd galw arnom i wneud hynny.”

“Rwyf hefyd yn ceisio sicrwydd nad oes gan y Cyngor unrhyw gontractau gyda chwmnïau o Rwsia. Yn ogystal, mae Partneriaeth Pensiwn Cymru a’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, y mae Cronfa Bensiwn Dyfed yn rhan ohonynt, wedi cadarnhau eu bod yn rhoi’r gorau i fuddsoddi mewn buddsoddiadau yn Rwsia.”

Cytunwyd mewn egwyddor gan y cyngor llawn, os bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau ynglŷn â chymorth yn y cyfnod cyn yr etholiad, y bydd swyddogion y Cyngor yn gweithredu ar ran y Cyngor i sicrhau bod paratoadau ar waith i ddarparu cymorth.

Mae'r cyfnod cyn yr etholiad yn dechrau ar 18 Mawrth, ac yn ystod y cyfnod hwn ni fydd cynghorwyr yn gallu gwneud penderfyniadau ar weithrediadau'r Cyngor tan ar ôl yr etholiadau lleol a gynhelir ar 5 Mai.

Ailadroddodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn hefyd neges a roddwyd i arweinwyr Awdurdodau Lleol gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn gynharach yr wythnos hon ynghylch rhoddion cymorth: “Dylai pobl sy’n dymuno rhoi i helpu gydag apêl Wcráin wneud hynny drwy roi rhodd ariannol drwy’r sianeli priodol, megis y Pwyllgor Argyfyngau. Dyma’r opsiwn a ffefrir yn hytrach na rhoi nwyddau oherwydd y gall y rhain achosi problemau logistaidd.”

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwch helpu a chefnogi pobl Wcráin ar gael yma: https://llyw.cymru/cefnogi-pobl-wcrain

 

03/03/2022