Gan fod busnesau lletygarwch awyr agored bellach yn cael ailagor yng Nghymru, anogir busnesau yng Ngheredigion i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf.

O ddydd Sadwrn, 24 Ebrill 2021 ymlaen, gall chwech o bobl gyfarfod yn yr awyr agored yng Nghymru, a gall lletygarwch awyr agored, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill 2021 ymlaen – ynghyd ag atyniadau awyr agored, gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu, a derbyniadau priodas i hyd at 30 o bobl.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi fod Cymru ar y trywydd iawn i agor lletygarwch dan do o ddydd Llun 17 Mai 2021, yn ddibynnol ar gadarnhad.

Er mwyn agor lletygarwch awyr agored yn fwy hwylus a diogel, efallai y bydd rhai lleoliadau eisiau codi strwythurau/cysgodfannau awyr agored i ddarparu rhywfaint o gysgod rhag tywydd newidiol Cymru.

Er mwyn cael eu hystyried yn lleoliadau ‘awyr agored’, ni all cysgodfannau, pebyll mawr a strwythurau eraill fod yn ‘gaeedig’ nac yn ‘sylweddol gaeedig’ er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Os oes to ar y strwythur, rhaid i o leiaf 50% o arwynebedd eu ‘waliau’ neu eu hochrau fod ar agor ar bob adeg pan fyddant yn cael eu defnyddio.

Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ffenestri na drysau yn y strwythur. Cymerwyd y ‘rheol 50%’ hon o ddeddfwriaeth adeiladau di-fwg, felly os na allwch ysmygu mewn strwythur neu adeilad, ni fydd yn bosibl ei ddefnyddio ar gyfer lletygarwch awyr agored pan fydd y sector yn ailagor. 

Mae hefyd yn bwysig lleoli strwythurau yn bell i ffwrdd o unrhyw strwythurau parhaol, e.e. waliau neu wrychoedd oherwydd gall y rhain wedyn ffurfio rhan o berimedr yr adeilad yn ddamweiniol wrth iddynt wneud yr ochrau hyn yn gaeedig.

Fel canllaw, dylai strwythur fod o leiaf 1.5 metr i ffwrdd o unrhyw ddeunyddiau neu strwythur arall a fyddai'n gwneud yr ochrau hyn yn gaeedig. Mae'n bwysig cofio bod yn rhaid i unrhyw gysgodfan awyr agored gydymffurfio nid yn unig â'r ddeddfwriaeth ar ysmygu, ond hefyd â deddfwriaeth yn ymwneud â Chynllunio, Rheoli Adeiladu a'r amodau ar gyfer adeiladau trwyddedig e.e. mae lleoliad y strwythur yn golygu nad yw eich teledu cylch cyfyng yn effeithiol.

Cynghorir busnesau hefyd i gysylltu â'r Swyddog Tân i drafod unrhyw effaith y gall y strwythur/cysgodfan ei chael ar lwybrau dianc rhag tân ac ati. I gael rhagor o wybodaeth am hyn a sut i gyfrifo a ellir defnyddio eich strwythur fel strwythur awyr agored, ewch i dudalen Llywodraeth Cymru ynghylch deddfwriaeth ddi-fwg: https://llyw.cymru/deddfwriaeth-ddi-fwg-canllawiau-ar-y-newidiadau-o-fis-mawrth-2021?_ga=2.263362444.1095482462.1619421669-1244726348.161243

Mae UK Hospitality Cymru hefyd wedi rhyddhau'r canllawiau lliniaru canlynol ar gyfer ailagor yn yr awyr agored yng Nghymru ar gyfer y sector lletygarwch (tafarndai, bariau, caffis, bwytai a lleoliadau trwyddedig): www.ukhospitality.org.uk/page/WalesGuidance

Cynhyrchwyd y canllaw hwn drwy ymgynghori â rhanddeiliaid y diwydiant ac mae'n berthnasol i fusnesau lletygarwch yng Nghymru. Mae gwybodaeth sy'n ymwneud â lefelau rhybudd cyfredol ac unrhyw drefniadau pontio a allai fod ar waith i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru/coronafeirws. Gall y rhain newid ar fyr rybudd felly cynghorir bod y dudalen yn cael ei gwirio'n rheolaidd.

27/04/2021