Yng nghyfarfod cynhaliwyd ar 24 Medi, cutunwyd aelodau’r Cabinet bydd Cyngor Sir Ceredigion yn darparu proses gwirio dogfennau adnabod ‘dros y cownter’ i ymgeiswyr y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd a ddarperir gan y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfeydd Cofrestru wedi’i lleoli yng Nghanolfan Rheidol yn derbyn apwyntiadau o ymgeiswyr diwedd mis Medi. Byddai’r gwasanaeth yn ddefnyddiol iawn i unrhyw un nad ydynt yn gallu uwchlwytho eu dogfennau adnabod.

Rhoddwyd y broses ymgeisio ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ar waith ar 30 Mawrth 2019. Er mwyn parhau i fyw, gweithio ac astudio yn y Deyrnas Unedig, bydd angen i ddinasyddion yr UE a’u teuluoedd gyflwyno ceisiadau erbyn 1 Rhagfyr 2020.

Mae’r broses ymgeisio yn gwbl ddigidol a gellir ei chwblhau drwy ap sganio prawf adnabod ar ffonau clyfar Android. Fodd bynnag, cydnabyddir efallai y bydd galw am wasanaeth gwirio dogfennau adnabod ‘dros y cownter’ neu ‘wyneb i wyneb’. Mae’r Swyddfa Gartref wedi gwneud trefniadau er mwyn i Awdurdodau Lleol gynnig y gwasanaeth hwn. Ar y foment, dim ond Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili sy'n darparu'r gwasanaeth hwn yng Nghymru.

Amcangyfrifir bod o leiaf 2,000 o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn preswylio yng Ngheredigion. Ar ddiwedd mis Awst 2019, roedd 300 o drigolion Ceredigion wedi ymgeisio am statws preswylydd sefydlog yn llwyddiannus, ac mae hyn yn cynrychioli oddeutu 15% o’r rheini sydd angen cofrestru.

Y Cynghorydd Ray Quant yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Gyswllt Cwsmeriaid, Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu. Dywedodd: “Mae cyfradd gymharol uchel o boblogaeth Ceredigion wedi’u geni yn yr Undeb Ewropeaidd - 4%, sy’n golygu’r pedwerydd nifer uchaf o blith siroedd Cymru. O ffigwr yma, bydd nifer o’n trigolion yn ei chael hi'n anodd cwblhau'r broses wirio eu hunain am nifer o resymau gwahanol.

“Gall hyn fod yn brofiad hynod o straenus i’r rheini yr effeithir arnynt, oherwydd os ydynt yn methu â chofrestru, neu os na chânt eu derbyn, byddai effaith hynny yn gweddnewid eu bywydau, bywydau eu teuluoedd a’r berthynas y maent wedi ei meithrin gyda’r gymuned. Byddant yn colli eu hawl i ddefnyddio sawl gwasanaeth, gan gynnwys budd-daliadau gwladol ac iechyd. Byddai eu gallu i weithio hefyd dan fygythiad, a byddant yn teimlo pryder ac ansicrwydd pryd bynnag y byddant yn teithio y tu hwnt i derfynau’r Deyrnas Unedig.

"Felly, rwy'n hynod falch ein bod ni, fel awdurdod lleol, yn gallu cynnig help a chymorth i breswylwyr yr Undeb Ewropeaidd sy'n gwneud cyfraniad bywiog ac arwyddocaol i'n cymuned a'n heconomi."

I wneud apwyntiad, neu am ragor o wybodaeth ar wasanaeth broses gwirio dogfennau adnabod yng Ngheredigion, ffoniwch 01970 633580. Bydd angen tâl o £14 am bob cais. Yn unol ag awdurdodau eraill sy'n ddarpar y gwasanaeth hwn, mae staff Cyngor Sir Ceredigion wedi'u heithrio o'r ffi.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yma: https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families

 

25/09/2019