Etholwyd y Cynghorydd Hag Harris yn Gadeirydd y Cyngor am 2018-2019 yn y Cyfarfod Blynyddol y cynhaliwyd gan Gyngor Sir Ceredigion ar ddydd Gwener 18 Mai 2018.

Wrth agor y cyfarfod ac yn ymddeol fel Cadeirydd, fe anerchodd y Cynghorydd Lynford Thomas y Cyngor gan adlewyrchu ar ei flwyddyn fel Cadeirydd. Pwysleisiodd bod yr ystod o dalentau pobl ifanc y sir wedi gwneud cryn argraff arno mewn dros gant o ddigwyddiadau y gwnaeth fynychu.

Ar ôl cael ei ethol fel y Cadeirydd, fe wnaeth Cynghorydd Harris o ward Llanbedr Pont Steffan Ddatganiad o Dderbyn y Swydd a gafodd ei gyflwyno â’r Gadwyn gan ei rhagflaenydd. Yna fe anerchodd y Cyngor gan ddweud bod cael ei ethol yn Gadeirydd yn anrhydedd a'i fod yn bwriadu rhoi cyfle teg i bob Cynghorydd fynegi eu barn yn y Siambr. Penodwyd y Parchedig Jenny Kimber yn Gaplan i’r Cadeirydd am 2018-2019.

Etholwyd y Cynghorydd Peter Davies MBE o ward Capel Dewi yn Is-gadeirydd y Cyngor. Fe wnaeth Ddatganiad o Dderbyn y Swydd ac fe gafodd ei gyflwyno ag Arwydd o’r Swydd iddo gan y Cadeirydd. Fe ychwanegodd ei fod yn gobeithio gall aelodau’r Cyngor weithio gyda’i gilydd er lles y sir.

Fe gamodd dau Gynghorydd lawr fel Cadeiryddion pwyllgorau fel sydd yn angenrheidiol ar ôl gwasanaethu am ddwy flynedd. Camodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu. Bydd y Cynghorydd Bryan Davies yn gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor a’r Cynghorydd Lynford Thomas yn gwasanaethau fel Is-gadeirydd.

Camodd y Cynghorydd Euros Davies lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau Ffyniannus. Bydd y Cynghorydd Gwyn James yn gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor hwn, a’r Cynghorydd Marc Davies fel Is-gadeirydd.

18/05/2018