Etholwyd y Cynghorydd Gareth Davies yn Gadeirydd y Cyngor am 2020-2021 yn y Cyfarfod Blynyddol y cynhaliwyd gan Gyngor Sir Ceredigion ar ddydd Gwener 20 Mawrth.

Agorwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Peter Davies MBE sy’n ymddeol fel Cadeirydd trwy annerch y Cyngor gan adlewyrchu ar ei flwyddyn fel Cadeirydd.

Ar ôl cael ei ethol fel y Cadeirydd, fe wnaeth Cynghorydd Gareth Davies o Ward Llanbadarn Fawr Padarn dderbyn y Swydd a chafodd ei gyflwyno â’r Gadwyn gan ei rhagflaenydd. Yna fe anerchodd y Cyngor gan ddweud bod cael ei ethol yn Gadeirydd yn anrhydedd fawr a’u fod yn awyddus i helpu i wasanaethu’r sir yn y flwyddyn i ddod. 

Mae’r Cynghorydd Gareth Davies wedi bod yn Gynghorydd sir ers 2004 gan Gadeirio nifer o bwyllgorau o fewn y Cyngor. Mae’n aelod o Gyngor Cymuned Llanbadarn Fawr ac yn weithgar iawn yn y gymuned yn Llanbadarn Fawr. Fe’i ganwyd a’i fagwyd yn New Row, Pontrhydygroes. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Ysbyty Ystwyth ac Ysgol Uwchradd Tregaron.

Penodwyd y Parchedig Ganon Andrew Loat yn Gaplan i’r Cadeirydd am 2020-2021.

Etholwyd y Cynghorydd Paul Hinge o Ward Tirymynach yn Is-gadeirydd y Cyngor. Fe wnaeth Ddatganiad o Dderbyn y Swydd ac fe gafodd ei gyflwyno ag Arwydd o’r Swydd iddo gan y Cadeirydd.

20/03/2020