Wrth i Sue Darnbrook ymddeol o’i rôl fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar ôl bron 11 mlynedd, mae Cynghorwyr y Cyngor yn rhannu eu diolch iddi.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Mae hi wedi bod yn fraint ac yn bleser cydweithio gyda Sue ar hyd ei hamser yn y Cyngor. Mae hi wedi rhoi popeth i mewn i’r gwaith fel Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yna mewn rol ehangach fel Cyfarwyddwr Corfforaethol. Bu’n flaengar ac yn barod i ymgymryd a phopeth a ddaeth ar ei thraws er budd Ceredigion. Nid peth hawdd oedd arwain ar y newidiadau a’r sialensau a ddaeth yn wyneb deddfwriaeth newydd a thoriadau ariannol cyson ond fe wnaeth Sue hyn gyda’g urddas.

Diolch o waelod calon, Sue – mae ein gwerthfawrogiad ni’n fawr. Mwynhewch eich ymddeoliad a’r amser nawr i fwynhau gyda theulu a ffrindiau.”

Mae’r Cynghorydd Catherine Hughes wedi cydweithio gyda Sue trwy ei phortffolio fel Aelod Cabinet. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Bwrdd rhanddeiliaid Cylch Caron – prosiect a oedd yn agos iawn at galon Sue. Dywedodd, “Mae cyfraniad ac arweiniad Sue wedi bod yn enfawr - rhoddodd o’i gorau er lles trigolion Ceredigion beth bynnag eu hoedran. Rhaid cofio a diolch am ei gwaith wrth arwain ar Cylch Caron, gwaith sydd wedi bod yn anodd a heriol ond yn symud ymlaen gam wrth gam. Pob dymuniad da iddi ar ei ymddeoliad.”

14/05/2020