Gofynnir i gynghorwyr Sir Ceredigion ystyried cynnydd o 4% yng nghyfradd y dreth Cyngor pan fyddant yn cyfarfod ar 5 Mawrth 2020.

Byddant yn ystyried y gyfradd ar ôl i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion argymell y cynnydd i sicrhau nad oes rhagor o doriadau i wasanaethau'r Cyngor yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Byddai'r cynnydd arfaethedig yn golygu y byddai eiddo Band D cyfartalog yng Ngheredigion yn talu £1,364.82 o dreth cyngor bob blwyddyn, cynnydd o tua £1 yr wythnos.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd y Cyngor. Dywedodd: “Rydym yn cynnig i'r Cyngor y dylid cynyddu cyfradd y dreth Gyngor ar lefel debyg gan fod cyllid ein llywodraeth wedi cynyddu. Mae hyn yn golygu y byddai holl wasanaethau'r Cyngor yn cael eu diogelu rhag toriadau pellach yn ystod y flwyddyn nesaf. Byddai'r cynnydd yn ateb y galwadau cynyddol a roddir ar gyllidebau gofal cymdeithasol na allwn eu hosgoi.”

Bydd y cynnydd cyffredinol yng nghyfradd y dreth Cyngor yn cael ei bennu gan dair cydran allweddol, sef treth y Cyngor Sir, praesept Cynghorau Tref a Chymuned a praesept yr Heddlu. Mae'r cynnydd a bennwyd gan yr Heddlu a Chynghorau Tref a Chymuned yn arwain at gynnydd cyfunol sydd eto i'w gyfrifo.

31/01/2020