Mae cymunedau a staff wedi cael eu diolch am eu gwaith yn ystod llifogydd Storm Callum. Fe wnaeth y llifogydd ym mis Hydref greu difrod mawr i gartrefi, busnesau, heolydd a phontydd yn ne Ceredigion. Y llifogydd yma oedd y digwyddiad o lifogydd mwyaf mewn 31 o flynyddoedd yng Ngheredigion.

Yn ystod y llifogydd, cefnogodd y cyngor y gwasanaethau brys i flaenoriaethu achub bywydau. Fe wnaeth hyn gynnwys cau heolydd a phontydd a oedd wedi eu gwneud yn beryglus oherwydd llifogydd. Gweithredwyd gweithdrefnau ymateb ac adfer mewn argyfwng y cyngor yn ystod y digwyddiad. Gweithredwyd gweithdrefnau amlasiantaethol hefyd.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, Mr Eifion Evans, “Fe wnaeth staff y cyngor ragori eu dyletswyddau dros benwythnos y llifogydd. Fe weles i eu hymdrechion fy hun; staff doedd ddim ar ddyletswydd yn dod mewn i helpu trigolion. Roedd rhaid i ni anfon rhai staff adref gan roeddent eisiau gweithio yn hirach na’r uchafswm o 12 awr y mae gan staff yr hawl i weithio mewn un shifft.

Mae ymdrechion anferth y cymunedau i helpu ei gilydd yn ystod ac ar ôl y llifogydd hefyd wedi gwneud cryn argraff arnaf.”

Ar ôl i’r lefelau dŵr gwympo, fe aeth staff cyngor o dimoedd Lles Cymunedol, Tai a Phriffyrdd allan yn syth i’r ardaloedd a oedd wedi eu heffeithio i gynnig cymorth a chyngor ymarferol. Fe wnaethant hefyd weld maint y difrod.

Mae pawb sydd wedi bod mewn cyswllt gyda’r cyngor wedi cael y cynnig o help gyda llety, gan gynnwys y cynnig o lety dros-dro mewn argyfwng. Mae’r Tîm Tai hefyd wedi gweithio gyda landlordiaid a busnesau Gwely a Brecwast lleol i ddarparu mwy o lety ac i ddarparu cefnogaeth barhaus i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd.

Mae'r Tîm Lles Cymunedol wedi darparu cyngor ac offer arbenigol i breswylwyr i helpu i ddechrau sychu eu cartrefi. Mae'r gefnogaeth yma yn parhau.

Trefnodd y cyngor sesiynau galw heibio yn Llanbedr Pont Steffan, Castell Newydd Emlyn, Llandysul a Llechryd. Mynychodd nifer o sefydliadau gan gynnig cymorth a chyngor i’r rheiny a effeithiwyd. Rhoddodd y sesiynau gyfle i breswylwyr ofyn cwestiynau i'r sefydliadau ynghylch adfer y llifogydd.

Mae’r Tîm Priffyrdd wedi trefnu gwasanaeth am ddim i godi a gwaredu deunyddiau a ddifrodwyd gan lifogydd. Maent hefyd wedi rhoi sgipiau mewn safleoedd gwastraff cartref lleol ar gyfer eiddo sydd wedi'i ddifrodi gan lifogydd. Cliriodd y Tîm 100 tunnell o ddaear o'r B4459 ger Capel Dewi ar ôl i dirlithriad orchuddio’r ffordd. Bu’r Tîm hefyd yn trwsio ffyrdd a phontydd a gafodd eu difrodi.

Parhaodd Mr Evans trwy ddweud, “Mae'r cyngor yn ymroddedig i helpu ein trigolion i adfer rhag effeithiau dinistriol y llifogydd. Rwy'n deall bod yr effaith yn dal i fod yn gignoeth iawn i bobl sydd wedi cael eu heffeithio, yn enwedig y rhai sydd wedi'u gwneud yn ddigartref. Rwyf am roi sicrwydd i bob preswylydd bod ein staff ymroddedig yn gweithio'n galed i'ch helpu. Er gwaethaf pwysau difrifol ar gyllidebau'r Cyngor, byddwn yn gwneud popeth yn ein pŵer i barhau i gynnig cymorth ymarferol i drigolion.”

Mae grŵp adfer llifogydd wedi cwrdd yn rheolaidd i edrych ar sut y gall y Cyngor dargedu cymorth yn y ffordd fwyaf effeithiol. Cyhoeddir cylchlythyr llifogydd pellach yn y dyfodol agos. Bydd y Cyngor yn cynnal cymorthfeydd cyngor ac yn adeiladu ar y gwaith o ddatblygu grwpiau cefnogi brys ar gyfer llifogydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth y gall y Cyngor ei gynnig ar gael ar y wefan ar www.ceredigion.gov.uk/LlifogyddStormCallum

16/11/2018