Mae preswylydd o Geredigion wedi cwblhau cwrs Cwnsela ar ôl derbyn cyllid gan Cymunedau am Waith a Mwy, gan ei galluogi i ddod o hyd i waith fel Cwnselydd o fewn y Sir.

Mae Kate Saunders wedi dod o hyd i waith fel Cwnselydd ar-lein ar gyfer Area 43, elusen annibynnol yn Aberteifi sy'n darparu cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth i bobl ifanc 16-25 oed a gwasanaethau cwnsela i bobl ifanc 10-30 oed a disgyblion Ysgol Gynradd Machynlleth,  ar ôl derbyn cyllid gan Cymunedau am Waith a Mwy i ariannu ei chwrs.

Dywedodd Kate, “Mae'r cyllid a gefais wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a'u defnyddio i ddod o hyd i waith yr wyf yn angerddol amdano, a all hefyd gyd-fynd ag anghenion fy mab.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Rwy’n falch iawn o weld bod Cymunedau am Waith a Mwy yn gallu helpu cymaint o unigolion yng Ngheredigion, fel Kate, i ddatblygu'n broffesiynol."

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn brosiect sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a’i redeg gan Gyngor Sir Ceredigion, ac mae’n cynorthwyo unigolion 16 oed a throsodd sy’n byw mewn tlodi neu mewn perygl o fyw mewn tlodi, ar draws Ceredigion a ledled Cymru gyfan. Gall y cyfranogwyr fod mewn gwaith ond yn byw mewn tlodi, yn ddi-waith, yn byw ar isafswm cyflog neu’n cael trafferth talu costau misol sylfaenol ar gontractau dim oriau achlysurol.

Mae’r mentoriaid yn darparu cymorth un i un i gyfranogwyr, i’w helpu i ysgrifennu eu CV, cynnal cyfweliadau ffug, uwchraddio’u sgiliau, yn ogystal ag ariannu amrywiaeth eang o hyfforddiant, gan gynnwys help i ddechrau eu busnesau eu hunain.

Os ydych chi’n meddwl y gallai’r prosiect eich helpu chi, neu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar 01545 574193 neu e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk

30/06/2021