Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod mis Mai mewn chwe thref wledig yng Ngheredigion i ddarparu cymorth adfywio busnesau a chymorth entrepreneuraidd.
Nod y digwyddiadau, a gynhelir gan Cynnal y Cardi, yw annog unigolion mentrus i gymryd camau i ddechrau neu dyfu eu busnesau yng Ngheredigion drwy hwyluso trafodaethau ar syniadau busnes, materion a’r cymorth sydd ar gael.
Yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau gan gynnwys Syniadau Mawr Cymru, Busnes Cymru a Sgiliau Newydd Dechrau Newydd, bydd Llysgenhadon Busnes Lleol yn bresennol i rannu eu profiad a’u harferion gorau.
Cynhelir y digwyddiadau rhwng 2yp-6yh yn y lleoliadau a'r dyddiadau canlynol:
- 9 Mai – Y Talbot, Tregaron
- 11 Mai – Gwesty’r Porth, Llandysul
- 13 Mai – Gwesty’r Marine, Aberystwyth
- 16 Mai – Gwesty’r Feathers, Aberaeron
- 18 Mai – Canolfan Creuddyn, Llambed
- 20 Mai – Neuadd y Dref, Aberteifi
Dywedodd Russell Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros yr Economi ac Adfywio: “Un o flaenoriaethau allweddol Strategaeth Economaidd Ceredigion yw gweld y rhai sy’n dymuno aros a datblygu gyrfa yng Ngheredigion yn sylweddoli bod cyfleoedd i wneud hynny. Rydym am greu diwylliant sy'n canolbwyntio ar entrepreneuriaeth ar gyfer y sir. Gan weithio gydag asiantaethau eraill bydd y digwyddiadau hyn yn gyfle i chi drafod eich syniadau a chael gwybod am y cymorth sydd ar gael. Bydd gennych chi arbenigwyr a busnesau lleol wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.”
Mae Cynnal y Cardi, cynllun LEADER Ceredigion, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, yn cael ei gefnogi trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech archebu slot i siarad â sefydliad penodol, e-bostiwch cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
20/04/2022