Ar ddydd Gwener, 07 Mehefin cynhaliwyd cyfarfod Grŵp Cefnogi Cyflogwyr Gweithffyrdd+ ym Mhenmorfa, Aberaeron. Prif nod y grŵp yw gwella'r rhwydwaith o gyflogwyr a'r berthynas â rhanddeiliaid a sefydliadau partner ledled Ceredigion.

Mae'r grŵp yn darparu gwasanaeth cymorth effeithlon i'r cyfranogwr a'r cyflogwr. Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i rannu arferion gorau a thrafod yr holl ddatblygiadau, lleoedd gwag a digwyddiadau diweddaraf.

Y siaradwyr gwadd yn ystod y cyfarfod oedd Gareth Thomas o Busnes mewn Ffocws, Hwb Menter a David Bannister o Antur Teifi.

Roedd y mynychwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o weithwyr lleol, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn cynnwys, yr Adran Gwaith a Phensiynau, ‘Resolve Computing’, ‘Thomas Safety Services’, Gyrfa Cymru, Gweithffyrdd+, Cyngor Sir Ceredigion, ‘JGHR Solutions’, Antur Teifi, Cymunedau dros Waith+, Tai Wales & West, Prime Cymru, Busnes Cymru, DEWIS a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Meddai, "Mae yna lawer o gyrff cyhoeddus, gwirfoddol a’r trydydd sector sy'n gweithio'n agos gyda chyflogwyr ar ryw ffurf neu'i gilydd. Mae'r grŵp hwn yn creu cyfle perffaith i bob un ohonynt gwrdd â chanolbwyntio'n uniongyrchol ar helpu cyfranogwyr i gael gwaith yng Ngheredigion a sicrhau bod busnesau yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gall Gweithffyrdd+ a'r grŵp cymorth fod y cymorth sydd ei angen arnoch os ydych yn cael trafferth dod o hyd i'r gweithiwr iawn ar gyfer eich busnes neu os ydych chi’n gwmni lleol sy'n ystyried recriwtio staff newydd.”

Os ydych yn gyflogwr, yn berchennog busnes, yn sefydliad dielw neu'n gorff trydydd sector, neu'n sefydliad cyhoeddus ac am fynychu'r grŵp, cysylltwch â john.evans2@ceredigion.gov.uk neu 01545 574193. Dyddiad cyfarfod nesaf y grŵp yw 6 Medi 2019.

Mae Gweithffyrdd+ yn brosiect cyflogadwyedd, wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a Chyngor Sir Ceredigion. Mae'n cynnig hyfforddiant am ddim a chyfleoedd profiad gwaith am ddim i bobl ddi-waith er mwyn helpu i roi eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Mae'n cynnig mentora un-i-un, cymorth gyda sgiliau chwilio am waith a chyfweld, a'r cyfle i gael cymwysterau newydd.

 

 

26/06/2019