Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo prosiect datblygu yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan a fydd yn cynyddu’r cymorth i unigolion sy’n byw gydag anghenion ychwanegol, o ganlyniad i fyw gyda dementia.

Bydd y prosiect yn cynnwys adnewyddu pedair ystafell wely, gwell llesiant personol ac ardal gymdeithasu a gardd synhwyraidd gaeedig, ddiogel y tu allan.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Gydol Oes a Llesiant: “Mae nifer y rhai sy’n byw gyda dementia yng Ngheredigion yn cynyddu ac rydym am wneud yn siŵr ein bod yn ehangu ein darpariaeth bresennol. Bydd y datblygiad newydd hwn yn Hafan Deg yn gwella llesiant meddyliol a chorfforol ein preswylwyr a’n staff ac yn cyfrannu at leihau ymddygiadau heriol. Bydd y datblygiad hefyd yn golygu gostyngiad yn nifer y preswylwyr y bydd angen eu symud oherwydd fod eu hanghenion yn fwy.”

Mae arian wedi’i sicrhau drwy raglen Cronfa Gyfalaf Gofal Integredig Llywodraeth Cymru.

Drwy’r broses dendro, dyfarnwyd y tendr i J&E Woodworks Ltd ac rydym yn disgwyl y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Awst 2022.

 

21/06/2022