Bydd gwaith i gynnal Clybiau Codio Cymraeg eu hiaith yn dechrau ar ôl derbyn cymeradwyiaeth Cabinet Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r penderfyniad yn dilyn gwobrwyo grant Cymraeg 2050 gan Lywodraeth Cymru i CERED – Menter Iaith Ceredigion am brosiect a fydd yn ceisio hybu defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.

Amcan CERED yw cynnal Clybiau Codio cyfrwng Cymraeg mewn partneriaeth gyda Code Club Wales. Mae Code Club Wales yn rhan o’r Rasberry Pi Foundation. Bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc i ddysgu am godio trwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu’r nifer o weithgareddau cymunedol sydd ar gael yn y Gymraeg. Mae’r prosiect yn targedu plant a phobl ifanc sydd ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg arferol a’u hysgogi i ddefnyddio’r iaith mewn ffordd wahanol iawn mewn maes sydd o ddiddordeb iddynt.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, a’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae Cered wedi gwneud gwaith gwych i sicrhau’r grant ar gyfer y prosiect arloesol hwn. Bydd y prosiect yma yn plethu’r Gymraeg a thechnoleg flaenllaw gyda’i gilydd gan ddangos i bobl ifanc bod y Gymraeg yn iaith fodern sy’n gwynebu’r dyfodol.”

Mae’r prosiect yma yn cefnogi nod strategaeth gorfforaethol y Cyngor i hybu a hwyluso diwylliant a hunaniaeth ddwyieithog
unigryw a bywiog Ceredigion. Gwnaethpwyd y penderfyniad mewn cyfarfod Cabinet ar 23 Ionawr.

25/01/2018