Mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 22 Chwefror 2018, cymeradwyodd y Cyngor yn unfrydol i gefnogi cynnig i leihau y defnydd o blastig ac i gefnogi cynlluniau lleihau plastig yng Ngheredigion.

Cynigwyd y cynnig gan y Cynghorydd Mark Strong ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gethin Davies. Mae’r cynnig yn galw ar Gyngor Sir Ceredigion i gefnogi'r gwahanol ymgyrchoedd 'Di-blastig' ledled y sir trwy leihau deunyddiau plastig un-tro yn adeiladau a swyddfeydd y Cyngor ac i hyrwyddo'r defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy ym mhob digwyddiad a gefnogir gan y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Strong, “Dw i wrth fy modd bod y Cyngor wedi cefnogi’r cynnig yn unfrydol. Mae hwn yn gam pwysig i’r Cyngor ond mae rhaid i ni barhau i leihau defnydd o blastig. Mae gan bawb cyfrifoldeb i leihau’r niwed amgylcheddol sy’n cael ei greu gan blastig. Mae gwneud camau bach megis prynu llaeth o’ch dyn llaeth lleol yn cefnogi’r economi leol ond mae hefyd yn cefnogi ein hamgylchedd gan ddefnyddio poteli gwydr a gellir eu hail defnyddio.”

Mae’r cynnig hefyd yn galw ar y Cyngor i annog busnesau, sefydliadau, ysgolion a chymunedau lleol i roi'r gorau i ddefnyddio deunyddiau plastig un-tro a mynd ati i ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy a hefyd i gefnogi digwyddiadau glanhau traethau ac unrhyw ddigwyddiadau eraill sydd â'r bwriad o godi ymwybyddiaeth am broblemau sy'n ymwneud â deunyddiau plastig un-tro o dan gynlluniau "Di-blastig", Caru Ceredigion, Trefi Taclus, neu unrhyw fenter debyg.

Newidiwyd y cynnig yn y cyfarfod i gynnwys sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Aelodau i gefnogi camau i leihau defnydd y Cyngor o blastig ac i gefnogi unrhyw gynlluniau yn y sir sydd yn lleihau defnydd o blastig.

23/02/2018