Yng nghyfarfod y Cabinet ar 17 Mawrth 2020, cymeradwywyd cynllun sy’n amlinellu amcanion cydraddoldeb Ceredigion ar gyfer 2020-24.

Mae Ceredigion Deg a Chyfartal 2020-24 yn nodi’r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd dros y pedair blynedd nesaf er mwyn dileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda er mwyn bodloni ei ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor adolygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol bob pedair blynedd er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei ystyried wrth lunio polisïau a darparu gwasanaethau. 

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Bolisi a Pherfformiad. Dywedodd: “Rwy’n croesawu’r Cynllun hwn sy’n nodi sut y byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod cydraddoldeb yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn. Mae’r Cynllun yn gosod sylfaen ar gyfer dyfodol gwell yn y tymor hir, a bydd ei gyflawni yn helpu i ddiogelu hawliau unigolion y Sir a datblygu cyfle cyfartal i bawb.”

Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi ar wefan gyhoeddus y Cyngor erbyn 31/3/2020.

 

17/03/2020