Mewn cyfarfod Cabinet ar 6 Mawrth, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i gefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n dod i’r sir yn 2020.

Penderfynwyd neilltuo arian i gronfa un-tro er mwyn sicrhau isadeiledd cadarn i gefnogi Eisteddfod lwyddiannus yng Ngheredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, “Rydym wrth ein bodd i allu cefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion yn 2020. Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o wyliau mawr y byd ac rydym yn awyddus nid yn unig i gefnogi diwylliant gwerthfawr ac unigryw Cymru, ond hefyd i gynnig hwb go iawn i’n heconomi leol gan ddenu degau o filoedd o bobl i Geredigion.”

I gynnal yr Eisteddfod bydd yn ofynnol i’r Cyngor wario arian cyn ac yn ystod yr ŵyl er mwyn gweithredu tasgau megis paratoi’r isadeiledd, marchnata a chynnal presenoldeb ar y maes.

Bydd y Cyngor yn gweithio i sicrhau nawdd grantiau a chefnogaeth gan bartneriaid a busnesau lleol i gyfrannu tuag at gefnogi cynnal yr Eisteddfod. Gwnaed y penderfyniad i gefnogi’r Eisteddfod er mwyn gwneud y gorau o’r buddion economaidd i Geredigion ac i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

16/03/2018