Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn cyhoeddiad ffurfiol am farwolaeth Y Frenhines Elizabeth II.

Dywedodd y Cynghorydd Ifan Davies, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, “Gyda thristwch mawr y derbyniwyd y newyddion am farwolaeth Y Frenhines. Ar ran Cyngor Sir Ceredigion estynnwn cydymdeimlad dwysaf at y teulu Frenhinol. Bydd y Frenhines yn rhan o'n hanes a'n cenhedlaeth am byth.

Fel arwydd o barch, ac ar gais y Prif Weithredwr, fe fydd y baner y Deyrnas Unedig a baner Cymru yn cael eu hanner-gostwng yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron; Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Aberystwyth; Canolfan Alun R. Edwards, Morfa Mawr, Aberystwyth a Neuadd y Sir, Aberaeron.”

Gellir dod o hyd i Lyfr Cydymdeimlad y Teulu Brenhinol yma. 

08/09/2022