Mae’r ymgeiswyr a fydd yn cynrychioli Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi’u cyhoeddi fel a ganlyn:

    • Eluned Mair Morgan, Llafur Cymru
    • Joyce Elizabeth Watson, Llafur Cymru
    • Cefin Arthur Campbell, Plaid Cymru
    • Jane Dodds, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Cynhaliwyd Etholiad Senedd Cymru: Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ddydd Iau, 06 Mai 2021, gyda’r canlyniad yn cael ei ddatgan yng Ngheredigion gan y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol, a hynny yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul.

    I gael rhagor o wybodaeth am yr Etholiad, ewch i dudalen Etholiadau Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/etholiadseneddcymru neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

07/05/2021