Mae pecyn o fuddsoddiad wedi cael ei sicrhau i adnewyddu ardal glan y môr Aberystwyth a hybu economi leol Ceredigion yn ystod cyhoeddiad y gyllideb heddiw.

Croesawodd Cyngor Sir Ceredigion y cyhoeddiad hwn gan Ganghellor y Trysorlys yn ystod cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw (27 Hydref 2021) yn dilyn cadarnhad y byddai Ceredigion yn cael buddsoddiad ar gyfer prosiect yr Hen Goleg a’r Harbwr yn rhan o Gronfa Codi’r Gwastad y Deyrnas Unedig.

Bydd y cyllid yn cyfrannu at wireddu a rhoi cynlluniau Prifysgol Aberystwyth ar waith a fydd yn rhoi bywyd newydd i’r Hen Goleg, yn ogystal â chreu Harbwr Byw ac Adnewyddu’r Promenâd yn Aberystwyth.

Cyflwynwyd y cais gan Gyngor Sir Ceredigion yn ystod mis Mehefin 2021 yn dilyn mewnbwn gan randdeiliaid a phartneriaid lleol ac mae’n llunio rhan o weledigaeth Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer hybu’r economi.

Bydd y buddsoddiad a dderbynnir trwy Gronfa Codi’r Gwastad y DU yn gyfle i roi cychwyn ar raglen o fuddsoddiada a fydd yn helpu i wella Aberystwyth fel lleoliad i fyw, ymweld, gweithio ac astudio.

Croesawodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y cyhoeddiad gan ddweud: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein heconomi leol a fydd yn helpu i wella dyheadau hirdymor Aberystwyth a chanol y dref trwy sicrhau buddsoddiad mewn seilwaith economaidd ac asedau a fydd yn helpu i lywio cyfleoedd am swyddi, sgiliau, buddsoddiad mewnol a hamdden. Rhaid hefyd diolch i'n holl bartneriaid a’r gymuned leol am eu holl ymdrech a’u cefnogaeth wrth sicrhau fod y cynnig yn gryf, ac yn y pendraw, yn llwyddiannus. Ochr yn ochr â datblygiadau posibl eraill yn y sir a ledled Canolbarth Cymru gyda Bargen Dwf Canolbarth Cymru, mae yna lawer yn digwydd yng Ngheredigion. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Llywodraeth a rhanddeiliaid ar bob lefel i wireddu gwir botensial y buddsoddiad hwn.”

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw i’w groesawu’n fawr iawn ac yn newyddion da iawn i Aberystwyth a Cheredigion. Mae hefyd yn gam pwysig arall tuag at wireddu’r weledigaeth i drawsnewid yr Hen Goleg yn ganolfan ddiwylliannol fyrlymus sydd yn cynnig adnoddau rhagorol i’r Brifysgol, y gymuned leol ac ymwelwyr i’r ardal.”

Mae’r cynllun yn Aberystwyth yn gynnig cynhwsfawr ar gyfer ardal sydd â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ond sydd wedi cael ei hanwybyddu am gyfnod rhy hir.

Bydd y cynlluniau yn llywio buddsoddiad newydd i greu cyfleoedd a rhoi hwb o’r newydd i'r ardal.

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth maes o law.

27/10/2021