Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi ei Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg yn dilyn cymeradwyaeth mewn cyfarfod diweddar o’r Cabinet.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn lawn o roi Safonau’r Gymraeg ar waith yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac mae’r adroddiad yn amlinellu cynnydd y Cyngor o ran gweithredu’r safonau hynny.

Mewn cyfarfod Cabinet rhithiol drwy ddefnyddio Zoom a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2020, cymeradwyodd yr aelodau Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion (2019-20), ac mae bellach wedi’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor. 

Mae’r adroddiad yn nodi sut y mae’r Cyngor yn cydymffurfio â’r safonau o ran darparu ei wasanaethau, llunio polisïau, darparu gwasanaethau yn fewnol i’w staff, ynghyd â mynd i’r afael a hybu a hwyluso'r defnydd o’r Gymraeg yn ehangach ledled y sir.

Casglwyd yr wybodaeth ar sail y gwaith monitro parhaus y mae’r Cyngor yn ei wneud o’i wasanaethau. Datblygwyd fframwaith hunan-fonitro yn erbyn gofynion safonau’r Gymraeg ac mae pob Swyddog Arweiniol Corfforaethol wedi sgorio perfformiad eu gwasanaeth gyferbyn â’r rhain. Yn unol â hyn mae Swyddog Polisi Iaith y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda rheolwyr y gwasanaethau er mwyn eu cynorthwyo i osod cynlluniau i wella ansawdd ac argaeledd y gwasanaethau Cymraeg. Mae’r Cyngor hefyd yn falch iawn o’r cyfleoedd dysgu mae’n ei gynnig i’w staff, i ddatblygu neu wella eu sgiliau iaith er mwyn medru gweithio’n ddwyieithog. Yn ystod y flwyddyn adrodd, mae 83 aelod o staff yn mynychu cyrsiau dysgu neu wella eu sgiliau iaith, gydag 20 aelod o staff wedi llwyddo mewn arholiadau iaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu ymrwymiad y Cyngor Sir yn ei ymdrechion parhaus wrth gyflawni gofynion Safonau’r Gymraeg. Wrth godi ymwybyddiaeth ymysg y staff o bwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, rydym yn cynyddu yn raddol y cyfran y staff ar bob lefel sydd â’r gallu a’r hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Hyn fel bod yr holl wasanaethau rydym yn eu cynnig yn medru gweithredu gyda dealltwriaeth effeithiol o’r cymunedau dwyieithog rydym yn eu gwasanaethu, ac yn medru uniaethu â hwy, yn unol ag egwyddorion Safonau’r Gymraeg.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i weithredu gofynion Safonau’r Gymraeg oddi ar 30 Mawrth 2016, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 dan Adran 44.

18/06/2020