Mae’r neges yn parhau i fod yn glir yng Ngheredigion – ni fydd unrhyw newidiadau i’r cyfyngiadau, ac mae’r tair wythnos nesaf yn hanfodol i’r sir.

Hyd yn hyn, mae trigolion Ceredigion wedi gwneud gwaith gwych wrth sicrhau bod nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Ngheredigion yn isel drwy aros adref a dilyn y canllawiau.

Yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd ddydd Gwener gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bydd y cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru. Mae’n rhaid i bobl barhau i aros adref, cadw pellter cymdeithasol o 2m rhwng eraill, a golchi eu dwylo’n rheolaidd am 20 eiliad. Mae un newid bach yn cynnwys caniatáu i bobl wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, ond mae’n rhaid gwneud hyn yn lleol heb unrhyw deithio diangen.

Mae’r cyfyngiadau symud yn amrywio ychydig ar draws pedair gwlad y DU, yn dibynnu ar y gyfradd heintio. Felly, mae’n hanfodol nad yw pobl yn teithio dros y ffin i Gymru i wneud ymarfer corff, a bydd dirwyon yn parhau i gael eu rhoi am unrhyw deithio nad yw’n hanfodol.

Ar hyn o bryd, rydym ar ein mwyaf bregus ac mae’r tair wythnos nesaf yn hanfodol i Geredigion. Mae gan Geredigion ganran uchel o boblogaeth hŷn ac mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i’w diogelu. Mae’r niferoedd isel yn ganlyniad i’r ymdrechion enfawr a wnaed gan drigolion Ceredigion. Fodd bynnag, oherwydd y niferoedd isel hyn, mae gennym wytnwch cyfyngedig, ac mae hyn yn ein gwneud ni i gyd yn agored i niwed.

Trwy gydnabod y cyfarwyddyd y bydd y cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru, dros y tair wythnos nesaf, bydd Llyfrgelloedd a Safleoedd Gwastraff Cartref yng Ngheredigion yn parhau i fod ar gau.

Os gallwn barhau i wneud beth rydym wedi’i wneud hyd yn hyn, rydym yn gobeithio y gallwn ddod trwy’r gwaethaf a pharhau i ddiogelu trigolion Ceredigion.

Ond mae arnom angen help pawb i gyrraedd y fan hon. Diolch am aros adref ac am beidio â gadael eich cartref oni bai ei fod yn hanfodol. Bydd hyn yn sicrhau na fydd yr holl waith da yn cael ei ddad-wneud.

Felly, mae’r neges yn parhau: arhoswch adref, achubwch fywydau.

11/05/2020