Wrth i flwyddyn y Cynghorydd Hag Harris fel Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2018-2019 ddod i ben, cynhaliwyd cinio swyddogol Cadeirydd y Cyngor. Yn ystod y digwyddiad, derbyniwyd rhoddion i gefnogi elusen a ddewiswyd gan y Cadeirydd, sef Canolfan Deuluol Llambed.

Mae Canolfan Deuluol Llambed ar agor pum diwrnod yr wythnos i unrhyw deulu sydd â phlant o dan 11 mlwydd oed. Mae’n Ganolfan mynediad agored ac yn darparu gwasanaeth i deuluoedd, am ddim, mewn amgylchedd anfeirniadol a chroesawgar.

Mae’r Ganolfan yn cynnig amryw o sesiynau drwy’r wythnos gan gynnwys grŵp babanod, clwb cinio a sesiynau iaith a chwarae i rieni a phlant bach. Maent hefyd yn cynnig sesiynau chwarae am ddim, gweithgareddau crefft a sesiynau ‘Mynd ar Grwydr”, sy’n hyrwyddo i’r gymuned y gwasanaethau sydd ar gael.

Cyflwynodd y Cynghorydd Hag Harris siec o £400 i Ganolfan Deuluol Llambed a ddywedodd, “Mae’n bleser i gyflwyno’r arian yma at elusen deilwng iawn. Mae Canolfan Deuluol Llambed yn wasanaeth cefnogol ffantastig i deuluoedd â phlant ifanc. Mae’n adnodd gwych ac o fudd i’r gymuned.”

Hefyd, mae’r Ganolfan yn cynnig ystod o gyrsiau er mwyn i rieni feithrin sgiliau newydd, gan gynnwys gwersi Cymraeg er mwyn helpu teuluoedd sydd wedi symud i’r ardal yn ddiweddar i integreiddio mewn i’r gymuned. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Ganolfan wedi cefnogi 102 o deuluoedd.

Mae Canolfan Deuluol Llambed wedi’i leoli yng Nghanolfan Dulais, Heol Pontfaen yn Llanbedr Pont Steffan. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â 01570 423847 neu e-bostiwch lampeterfamilycentre@gmail.com.

 

 

07/05/2019