Yn ddiweddar, mae'r Pwyllgor Moeseg a Safonau wedi croesawu pedwar aelod newydd yn dilyn diwedd tymor dau arall.

Rhoddodd y Cadeirydd, Eddie Ffoulkes-Jones a'r Is-gadeirydd Stephen Cripps, wasanaeth 10 mlynedd i'r Pwyllgor rhwng 2008 a 2018 a ymadawodd ym mis Chwefror 2018. Yn eu lle, gwelir y Cadeirydd Hywel Wyn Jones a'r Is-gadeirydd Caroline White. Mae dau aelod annibynnol newydd hefyd wedi'u penodi, sef Carol Edwards a John Weston.

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, “Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi elwa o ddegawd o gyngor ac arweiniad ardderchog gan aelodau’r Pwyllgor Moeseg a Safonau o dan Gadeiryddiaeth Eddie Foulkes Jones ac rydym yn ddiolchgar iawn iddo fe, yr Is-gadeirydd Stephen Cripps ac aelodau’r pwyllgor. Fodd bynnag, rydyn ni nawr yn cychwyn ar gyfnod newydd gyda phedwar aelod newydd o’r pwyllgor. Bydd eu cyfraniad i swyddogaeth y Pwyllgor Moeseg a Safonau yn cael ei werthfawrogi’n fawr ac rydym yn edrych ymlaen yn hyderus y bydd y Cyngor yn parhau i weithredu’n effeithiol a’n effeithlon mewn ffordd agored a thryloyw.”

Wrth nodi ei benodiad yn Gadeirydd y Pwyllgor, dywedodd Hywel Wyn Jones, “Rwy'n teimlo’n falch fy mod wedi fy mhenodi'n gadeirydd Pwyllgor Moeseg a Safonau Cyngor Sir Ceredigion. Rwy’n edrych ymlaen at gynnal arweiniad rhagorol fy rhagflaenydd, Eddie Foulkes Jones, ac i weithio gyda'm cydweithwyr, gan gynnwys Aelodau Etholedig a’r rheiny sydd wedi'u penodi'n annibynnol, i gynnal safonau moesegol uchel sydd wedi'u gosod eisoes.”

Mae gan aelodau'r Pwyllgor weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol. Parhaodd y Cadeirydd Hywel Wyn Jones, “Rhan bwysig o waith y pwyllgor yw ystyried ceisiadau gan gynghorwyr am ganiatâd i gymryd rhan mewn dadleuon ar faterion y gallai fod ganddynt rywfaint o ddiddordeb personol a rhagfarnol. Yn yr achosion hyn, rydym bob amser yn ymwybodol o'r angen i alluogi aelodau i gynrychioli a siarad am eu hetholwyr, ac eithrio pan fydd eu sefyllfa bersonol yn gwneud hynny'n amhriodol.”

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Lynford Thomas, “Diolch yn fawr i Eddie a Stephen sydd wedi rhoi o'u hamser i gyfrannu at y Pwyllgor a chroesawn yr aelodau newydd.”

Daeth Hywel Wyn Jones i'r casgliad, “Mae mater safonau moeseg ym mywyd cyhoeddus wedi cael llawer iawn o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar, ac mae Pwyllgorau Safonau awdurdodau lleol yn bodoli i wneud popeth sy'n bosibl i hyrwyddo a diogelu'r safonau y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl gan eu cynrychiolwyr etholedig. Mae gan Geredigion gofnod da o gydymffurfiaeth, ac rwy'n hyderus y gall hyn barhau, er gwaethaf y pwysau trwm y mae aelodau yn gweithio o dan, yn enwedig oherwydd y toriadau ariannol difrifol sy'n wynebu ein cynghorau.”

Bu Hywel Wyn Jones yn cadeirio ei gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor ar 06 Ebrill 2018. Mae'r Pwyllgor yn gyfarfod agored, sy'n cynnwys pum aelod annibynnol, dau gynghorydd sir a dau gynghorydd cymuned. Yn cyfarfod bob chwarter, gellir gweld papurau ar gyfer y Pwyllgor Moeseg a Safonau ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk

 

06/04/2018