Gofynnir i fyfyrwyr barhau i fyw yn eu llety prifysgol yn ystod cyfnod atal byr y coronaferiws, a pheidio â theithio i ffwrdd i gyfeiriadau cartref neu i aros gydag eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyfnod atal byr am bythefnos yn dechrau ddydd Gwener, 23 Hydref 2020, ac yn dod i ben ddydd Llun, 09 Tachwedd 2020, mewn ymgais i adennill rheolaeth o’r coronafeirws yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i bobl aros adref a bydd busnesau nad ydynt yn rhai hanfodol yn cau. Er hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai dysgu wyneb yn wyneb barhau mewn prifysgolion.

Bydd yn rhaid i drigolion Ceredigion sy’n astudio mewn colegau neu brifysgolion ledled Cymru neu’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd aros yn y lleoliadau hynny a pheidio â dychwelyd adref i’r sir i ymweld â theulu neu ffrindiau. Rydym yn deall fod hwn yn gyfnod heriol i deuluoedd, ond mae teithio yn ôl ac ymlaen yn peri risg o ledaenu’r feirws i ardaloedd newydd a gwahanol yn ein cymunedau. Gofynnwn i bobl barchu a dilyn y rheolau hyn yn llym er mwyn diogelu’r gymuned ehangach a’r ganran uchel o boblogaeth hŷn sy’n byw yng Ngheredigion.

Yn yr un modd, mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i weithio’n agos â’r ddwy brifysgol yn y sir, sef Prifysgol Aberystwyth a Champws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Gofynnwn i’r holl fyfyrwyr sy’n astudio yn y sefydliadau hyn barhau i fyw yn eu llety prifysgol a pheidio â theithio i’w cyfeiriadau cartref yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y ddwy brifysgol yn parhau i ddarparu cyfuniad o addysg wyneb yn wyneb a darpariaeth arlein yn ystod y cyfnod hwn.

Dylai myfyrwyr hunanynysu hefyd yn eu llety prifysgol os oes ganddynt symptomau neu os bydd y Tîm Olrhain Cysylltiadau yn cysylltu â nhw, ac ni ddylent ddychwelyd adref at deuluoedd neu ffrindiau.

Mae cyngor Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai myfyrwyr ddim ond symud rhwng eu cyfeiriadau prifysgol a’r cyfeiriadau cartref os bydd y daith yn gwbl angenrheidiol, er enghraifft ar gyfer gwaith, i ddarparu neu dderbyn gofal, neu oherwydd pryderon am lesiant. Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer myfyrwyr, teuluoedd a phrifysgolion ar gael ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru. 

I gael cyngor a gwybodaeth sy’n benodol i Geredigion, ewch i’n tudalennau coronafeirws. Mae’r cyngor hwn hefyd yn cyd-fynd â Strategaeth y Gaeaf i amddiffyn y ddarpariaeth addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. 

Diolchwn i bawb am ddilyn y canllawiau. Cadwch hyd braich i leddfu’r baich.

Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

22/10/2020