Bydd ysgolion Ceredigion yn ailagor am gyfnod o dair wythnos, yn hytrach na’r pedair wythnos y nodwyd yn wreiddiol.

Cafwyd cefnogaeth aruthrol gan staff ysgolion Ceredigion i groesawu disgyblion yn raddol yn ôl i'r ysgol o 29 Mehefin ymlaen.

Nodwyd yn wreiddiol gan Kirsty Williams, y Gweinidog addysg fod wythnos 20-24 Gorffennaf yn wythnos ysgol, ond mae bellach mae wedi cael ei alw gan Llywodraeth Cymru yn ‘bedwaredd wythnos wirfoddol'. Ni fydd ysgolion yng Ngheredigion yn agor am y cyfnod rhwng 20 a 24 Gorffennaf.

Mae Cyngor Sir Ceredigion a'u holl ysgolion yn siomedig iawn nad ydynt mewn sefyllfa i agor am y bedwaredd wythnos fel a gyhoeddwyd yn wreiddiol. Mae hyn o ganlyniad i'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu sicrhau cytundeb gydag Undebau Llafur eu bod yn bwriadu ymestyn y tymor ysgol. Oherwydd hyn, byddai staff allweddol mewn ysgolion yn gweithio'n groes i'w contract cyflogaeth yn ystod y bedwaredd wythnos wirfoddol.

Mae nifer o staff eisoes yn methu â mynychu safleoedd ysgolion am resymau meddygol teilwng, a gallai'r wythnos ychwanegol arwain at rai ysgolion yn brin o staff, ac o bosibl yn methu ag agor o gwbl.

Bydd ysgolion Ceredigion felly yn cau i ddisgyblion ar ddyddiad gwreiddiol diwedd tymor yr haf, sef 17 Gorffennaf.

Yn y cyfamser, mae holl ysgolion Ceredigion yn parhau i baratoi profiadau dysgu digidol ar gyfer disgyblion gan hefyd gynorthwyo i baratoi adeiladau ysgol yn barod i groesawu dychweliad rhai disgyblion ar 29 Mehefin.

Mae’r Cyngor yn rhannu eu diolch diffuant i staff ysgolion ac hefyd rhieni a gofalwyr am eu cefnogaeth amhrisiadwy yn ystod y cyfnod hwn.

22/06/2020