Mae angen i ddwy dafarn yn Aberystwyth wella eu mesurau er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn eu mangreoedd.

Cyflwynwyd hysbysiad gwella i dafarn Yr Hen Lew Du ar Heol y Bont, Aberystwyth, a thafarn The Western ar Stryd Thespis, Aberystwyth, yn dilyn ymweliadau gan swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys.

Cyflwynwyd yr Hysbysiadau Gwella Mangre, a gyflwynwyd o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, i’r ddwy dafarn ddydd Mercher 21 Hydref 2020.

Yn ystod ymweliadau â’r Hen Lew Du, canfu swyddogion fod angen gwelliannau i sicrhau y cydymffurfir â’r rheoliadau. Roedd y gwelliannau hyn yn cynnwys sicrhau bod gwybodaeth olrhain cyswllt yn cael ei chasglu gan bob person yn y fangre (neu mewn perthynas â phobl o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig, gan un o’r cwsmeriaid) a’i chadw’n gywir; rhoi mesurau ar waith i reoli’r man palmantog ym mlaen y fangre fel y gellir cynnal y pellter gofynnol rhwng pobl yn y fangre; rhoi mesurau effeithiol ar waith i reoli sut mae cwsmeriaid yn dod i mewn i’r fangre ac yn gadael yn ogystal â phan fydd cwsmeriaid yn ciwio i ddod i mewn i’r fangre.

O ran The Western, canfu swyddogion fod angen gwelliannau i sicrhau cydymffurfiaeth. Dylai’r gwelliannau angenrheidiol sicrhau bod staff yn gwisgo masg neu’n cymryd mesurau rhesymol eraill i gyfyngu ar gyswllt wyneb yn wyneb agos a chynnal hylendid; nad yw cwsmeriaid yn eistedd/sefyll wrth y bar wrth archebu, pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, neu wrth fwyta/yfed yn y fangre; bod gwybodaeth olrhain cyswllt yn cael ei chasglu gan bob person yn y fangre (neu mewn perthynas â phobl o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig, gan un o’r cwsmeriaid) a’i chadw’n gywir.

Rhoddir 48 awr i’r busnesau hyn gywiro’r materion a nodwyd neu bydd camau gorfodi pellach yn cael eu hystyried, gan gynnwys yr opsiwn o gyflwyno hysbysiadau cau.

Mae’r mwyafrif llethol o fusnesau lletygarwch Ceredigion yn ymdrechu i gydymffurfio â’r cyfyngiadau, ac mae swyddogion o Dîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i weithio gyda busnesau lleol drwy ddarparu cyngor ac arweiniad yn ystod arolygiadau monitro ac ati. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod clo byr, bydd cydymffurfiaeth yn cael ei monitro’n ofalus, a gallai unrhyw fangre drwyddedig sy’n mynd yn groes i’r cyfyngiadau wynebu camau gorfodi yn ogystal ag adolygiad o’u trwydded mangre.

22/10/2020