Mae dau fusnes yng Ngheredigion wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000 am fynd yn groes i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i'r gampfa Ideal Fitness yn Aberystwyth am aros ar agor pan waherddir hynny o dan y Rheoliadau. Yn dilyn cwynion gan aelodau o'r cyhoedd bod y gampfa ar agor ar gyfer busnes, ymwelodd swyddogion o Dîm Diogelu'r Cyhoedd â'r safle. Er gwaethaf y gofyniad i fod ar gau i aelodau'r cyhoedd a pheidio â chynnal y busnes neu'r gwasanaeth ar y safle yn ystod cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4, canfu swyddogion fod unigolion yn bresennol.

Mae’r siop flodau ‘Davi John’s Florist’ yn Aberystwyth hefyd wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig am fynd yn groes i’r Rheoliadau. Er y caniateir i'r busnes weithredu ar sail "Clicio a Chasglu", roedd cwynion a dderbyniwyd gan aelodau o'r cyhoedd yn honni nad felly yr oedd y busnes yn gweithredu ac y gallai unigolion brynu o'r siop heb wneud ymholiadau neu drefnu apwyntiad ymlaen llaw. Yn dilyn sawl ymweliad gan swyddogion o Dîm Diogelu'r Cyhoedd i roi cyngor i weithredwr y busnes, cyflwynwyd Hysbysiad Cydymffurfio i ddechrau a oedd yn nodi pa fesurau oedd eu hangen i gydymffurfio â rheoliadau. Fodd bynnag, parhaodd y busnes i ddiystyru'r gofyniad i gyfyngu ar fasnachu o'r safle, ac o ganlyniad, cyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig iddo.  

Cyflwynwyd yr Hysbysiadau Cosb Benodedig ar 3 Mawrth 2021 a 5 Mawrth 2021 gan Gyngor Sir Ceredigion. Gall y personau cyfrifol ryddhau eu hunain o unrhyw atebolrwydd am gollfarn am y tramgwydd os telir y gosb cyn pen 28 diwrnod.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor i fusnesau ar gael ar ein gwefan: http://www.ceredigion.gov.uk/busnes/covid-19-cefnogi-economi-ceredigion/ neu drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01545 570881 neu e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.  

10/03/2021