Mae tafarn yn Aberaeron wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £1000 am fynd yn groes i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Gwelodd swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd fod tafarn y Black Lion yn Aberaeron yn cyflenwi alcohol ac yn aros ar agor pan waherddir hynny o dan y Rheoliadau.

Cyflwynwyd yr Hysbysiad Cosb Benodedig ar 9 Rhagfyr 2020 gan Gyngor Sir Ceredigion. Gall y trwyddedai ryddhau ei hun o unrhyw atebolrwydd am gollfarn am y tramgwydd os telir y gosb cyn pen 28 diwrnod.

Mae’r awdurdod yn cydnabod yr aberth a wnaed gan fwyafrif mangreoedd trwyddedig Ceredigion er mwyn cydymffurfio â chyfyngiadau’r coronafeirws. Bydd camau yn cael eu cymryd yn erbyn mangreoedd lle canfyddir eu bod yn diystyru’r gofyniad o dan y Rheoliadau i gau a pheidio â gweini alcohol.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor i fusnesau ar gael ar ein gwefan neu drwy gysylltu â 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

11/12/2020