Mae Achos Busnes Llawn drafft Cylch Caron wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn pennu lefelau cyllid grant ar gyfer y cynllun.
Mae cynllun trawiadol Cylch Caron yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Tai Canolbarth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru. Bydd yn darparu adeilad newydd sbon wedi’i gynllunio i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; ynghyd â thai arbenigol i bobl sydd ag anghenion gofal yn Nhregaron. Bydd yr adeilad newydd yn cymryd lle Ysbyty Cymunedol Tregaron, Canolfan Adnoddau Bryntirion a’r feddygfa teulu.
Unwaith y penderfynir ar lefel y cyllid grant, bydd angen i bartneriaid Cylch Caron roi cymeradwyaeth derfynol i fwrw ymlaen â’r cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, aelod o Gabinet y cyngor a Chadeirydd Bwrdd Rhanddeiliaid Cylch Caron: "Mae’r tri phartner wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gyrraedd y pwynt hwn. Gobeithio y gallwn wneud cynnydd da yn y dyfodol agos. Rydym i gyd wedi ymrwymo i adeiladu Cylch Caron i helpu’r rhai sydd mewn angen yn ardal Tregaron.”
Dywedodd Julie James AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol: "Rwy’n falch ein bod wedi cyrraedd y cam pwysig hwn yn natblygiad canolfan newydd Cylch Caron yn Nhregaron, a fydd yn dod â gwasanaethau pwysig o dan yr un to, yn agosach at y bobl sy’n eu hangen.”
"Drwy weithio gyda’n gilydd a chanolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar, bydd y gwasanaethau hyn yn helpu pobl i fyw bywydau egnïol ac annibynnol. Mae Cylch Caron yn enghraifft ardderchog o sut y gallwn sicrhau newid o fewn y gwasanaeth iechyd drwy osod atal, ansawdd a thryloywder wrth wraidd gofal iechyd.”
"Bydd y cynllun yn helpu i sicrhau y gall pobl gael gafael ar wasanaethau a fydd yn cynyddu eu lefel annibyniaeth i’r eithaf ac yn eu helpu i aros yn eu cartrefi neu ddychwelyd iddynt cyn gynted â phosibl.”
Gweledigaeth Cylch Caron yw adeiladu ar y gwydnwch a’r ymrwymiad presennol i ofalu am bobl yng nghymuned Cylch Caron. Drwy hyn, bydd y bartneriaeth yn creu model gwledig, arloesol o ofal yn y gymuned i ddiwallu anghenion gofal, iechyd a thai yn yr ardal sy’n addas ar gyfer heddiw ac sy’n gynaliadwy ar gyfer yfory.
29/07/2019